Jack Parry Jones, yn derbyn gwobr Actor Gorau yng ngwobrau BAFTA Cymru, Caerdydd (Llun: Bafta Cymru/Shutterstock)
Penllanw dwy flynedd o waith oedd gwobr Jack Parry Jones am yr Actor Gorau yng ngwobrau BAFTA Cymru yng Nghaerdydd nos Sul, meddai’r actor wrth golwg360.

Fe ddaeth y Cymro Cymraeg o Ferthyr Tudful i frig categori oedd yn cynnwys y seren Hollywood Michael Sheen, Dyfan Dwyfor a Mark Lewis Jones.

Ffilm am daith dau lysfrawd nad ydyn nhw’n cydweld yw Moon Dogs, a gafodd ei ffilmio rhwng Ynysoedd y Shetland a Glasgow.

Yn ôl Jack Parry Jones, mae’r ffilm yn “daith wallgof ar yr heol sy’n llawn cerddoriaeth roc ac eiliadau doniol”.

Ac fe gafodd yr actor ei hun daith wallgof yn ystod y broses o ffilmio Moon Dogs, wrth deithio ar fferi am 14 awr o Aberdeen i Shetland.

“Roedd yn daith hir uffernol, ond yn brofiad gwych hefyd. Fe wnaethon ni chwerthin bob dydd ac os y’ch chi’n gwneud hynny, ry’ch chi ar y trywydd iawn, dw i’n meddwl.”

“Y teimlad gorau yn y byd”

Dywedodd ei fod e wedi cael “y teimlad gorau yn y byd” wrth ennill y wobr “a chael cydnabyddiaeth a gweld bod pobol wedi mwynhau’r ffilm a fy mherfformiad i”.

“Dw i wedi bod dros y lle i gyd gyda’r ffilm yma, mewn gwyliau ffilm dros y ddwy flynedd diwethaf, ry’n ni jyst wedi gwneud cymaint. Felly mae cael yr uchafbwynt yma heno wedi bod yn hyfryd.

“Gobeithio y galla i barhau i weithio ar brosiectau diddorol. Dw i wedi bod yn lwcus iawn mor belled i gael gweithio ar stwff diddorol a stwff mae pobol yn angerddol amdano.

“Am y tro, dw i’n mynd i fwynhau llwyddiant Moon Dogs. Allwn i ddim bod wedi’i wneud e heb y bobol dw i wedi bod yn gweithio gyda nhw.”

Bang

Tra bod Moon Dogs wedi mynd â Jack Parry Jones i’r Alban, fe gafodd e weithio’n nes at adref wrth ffilmio’r gyfres newydd Bang i S4C.

Cyfres ddwyieithog yw hi sydd wedi’i lleoli yn Aberafan, ac mae’r actor ifanc yn chwarae cymeriad y plismon Luke Lloyd mewn cymuned lle mae’r ieithwedd yn gymysgedd o Gymraeg a Saesneg sydd, yn ôl Jack Parry Jones, “yn crisialu’r ffordd mae pobol yng Nghymru, yn siaradwyr Cymraeg a Saesneg, yn siarad”.

“Siaradwr Cymraeg ail iaith ydw i, felly weithiau dw i’n mynd yn nerfus mewn sefyllfaoedd cymdeithasol lle mae gofyn i fi siarad Cymraeg, ond mae’n braf cael y cyfle i siarad Cymraeg ac actio yn Gymraeg, sy’n rhywbeth oedd ar fy bucket list i.

“Dw i erioed wedi cael ffilmio na gweithio yng Nghymru o’r blaen. Es i i ysgol ddrama yn Llundain, felly mae cryn dipyn o ’ngwaith i wedi bod yn Llundain, yr Alban neu hyd yn oed yn Ne Affrica.

“Felly mae cael gweithio gartre’ a chael gweithio gyda chast a chriw o Gymru a chyfarwyddwr o Gymru yn hyfryd. Mae’n teimlo fel teulu bach.”

Eglurodd ei fod e wedi gorfod colli pumed bennod y gyfres er mwyn cael mynd i seremoni wobrwyo BAFTA Cymru – “ond a bod yn onest, does dim ots gyda fi o gwbl!”