Ymgais i “adlewyrchu ein cymdeithas ddwyieithog ni” yw drama drosedd newydd S4C,
Bang, yn ôl y cynhyrchydd Roger Williams.

Stori am waed, cariad a pherthynas teulu yn nhref ddiwydiannol Port Talbot yw’r ddrama newydd sbon sy’n adrodd hanes Sam (Jacob Ifan) sy’n cael gafael ar ddryll ac yn dechrau torri’r gyfraith.

Mae ei chwaer Gina (Catrin Stewart) yn blismones uchelgeisiol ac yn benderfynol o ddod o hyd i berchennog yr arf. Mae ymchwiliad i lofruddiaeth dyn busnes lleol yn codi cwestiynau am lofruddiaeth eu tad pan oedden nhw’n blant bach.

Ymhlith aelodau eraill y cast mae Gillian Elisa, Gareth Jewell, Suzanne Packer, Jack Parry-Jones, Nia Roberts a Chris Reilly. Awdur y gyfres yw Roger Williams, oedd hefyd yn gyfrifol am greu’r gyfres ddrama Gwaith Cartref.

Port Talbot fel cymeriad

Mae’r ddrama wedi’i lleoli yng nghymuned ddwyieithog Port Talbot a Chwm Afan, ac mae wedi’i chyfarwyddo gan Philip John, sydd yn fwyaf adnabyddus am ei waith ar Downton Abbey ac Outlander ac Ashley Way (Stella ac Y Streic a Fi). Y cynhyrchydd yw Catrin Lewis Defis (Broadchurch).

Ond yn fwy na lleoliad yn unig, mae Port Talbot yn ‘gymeriad’ canolog yn y ddrama, lle mae’r ddeialog Gymraeg a Saesneg rhwng cymeriadau yn adlewyrchiad o ieithwedd yr ardal, yn ôl Roger Williams.

“O’n i’n mynd i sgrifennu’r sioe yn Gymraeg yn gyfangwbl. Ond mewn sgyrsiau gydag S4C, nhw gododd y syniad fod e ddim yn gredadwy i sefydlu cyfres Gymraeg yn y dre’ ac felly, mynd ati i drafod sut allen ni adlewyrchu ieithwedd yr ardal a dangos amrywiaeth ieithoedd yr ardal.

“Roedd hynna’n broses greadigol iawn wrth benderfynu pwy oedd yn mynd i siarad Saesneg, pwy sy’n siarad Cymraeg. Mae’r heddlu’n dueddol o ddefnyddio Saesneg i adlewyrchu’r realiti mai dyna iaith yr heddlu, dyna iaith eu gwaith nhw.

“Roedd cyfle i greu rhywbeth eitha’ unigryw o ran stori ond hefyd y ffordd y’n ni’n adrodd y stori’n ieithyddol.”

Yn ôl Jacob Ifan, mae’n ddyletswydd ar y cynhyrchiad i adlewyrchu’r gymdeithas dan sylw, ac mae’n gwbl gyfforddus mewn drama lle mae gofyn iddo symud yn ôl ac ymlaen rhwng y ddwy iaith.

“Gan bo fi’n siarad y ddwy iaith drwy’r amser, roedd e’n teimlo’n gwbl normal. Mewn drama, mae dyletswydd ar y cynhyrchiad i adlewyrchu’r cymdeithasau ni’n byw ynddyn nhw.

“Fi’n teimlo bod y ffordd ni wedi ffilmio Bang yn adlewyrchu sut mae pobl yn byw ac yn siarad yng Nghymru, ac yn enwedig yn ardal Port Talbot a Chwm Afan.

“Mae’n ffordd wahanol o wneud pethau, ond fi’n meddwl bod e’n gweithio’n dda ac yn swnio’n naturiol.” 

Port Talbot fel lleoliad

Yn ôl Roger Williams, roedd e’n awyddus i ysgrifennu drama drosedd “sydd yn ddynol iawn ac yn dangos yr effaith mae trosedd yn ei gael ar bobol”.

Ond roedd e hefyd am greu stori llawn hiwmor sy’n “adlewyrchu realiti ein cymdeithas ddwyieithog ni”.

“Ro’n i’n chwarae gyda’r syniad yma o sut allwn i wneud i’r ddrama weithio a beth fyddai’r stori, ac ro’n i’n chwilio am leoliad. Dw i’n byw yng Nghastell-nedd ers 15 mlynedd ac mae’n deg dweud, am y rhan fwyaf o’m bywyd fel oedolyn, yr unig berthynas dw i wedi’i chael gyda Phort Talbot, fel bachgen a gafodd ei fagu yng Nghaerfyrddin, yw’r M4 a’r trên.

“Ro’n i’n arfer edrych ar yr arwyddion yn yr orsaf a meddwl, “traeth Aberafan! Do’n i ddim yn gwybod fod traeth ym Mhort Talbot!”

Ar draeth Aberafan yn ddiweddarach y cafodd y syniad o greu ‘Bang’, meddai.

“Fe wnes i edrych i fyny wrth fynd â’r ci am dro a meddwl, “Alla i ddim credu fod neb wedi lleoli cyfres ddrama yma.

“Mae’n hyfryd pan y’ch chi’n meddwl am y cydbwysedd rhwng y diwydiant, yr arfordir a’r dref, ac yna Cwm Afan a’i harddwch. Doedd dim dwywaith wedyn y dylen ni ddod yma a chreu’r gyfres ym Mhort Talbot.”

Dychwelyd i Gymru

I Philip John, roedd Bang yn gyfle, am unwaith, iddo ddychwelyd adref i Gymru i weithio ar ôl bod yn gweithio yn Lloegr ar gyfresi fel Downton Abbey ac Outlander.

“Allwn i ddim credu bo fi wedi cael cynnig sgript yng Nghymru! Ro’n i wedi bod yn gweithio i ffwrdd am ryw ddeng mlynedd ac yn awyddus iawn i ddod adre.

“Dw i’n dueddol o weithio bant eitha’ tipyn. Fe wnes i ddarllen y sgript ac ymbil arnyn nhw i’w rhoi hi i fi! Fe wnes i gwympo mewn cariad. Fe ddywedon nhw eu bod nhw eisiau cymryd cynifer o risgiau â phosib ac allwn i ddim dweud ‘Na’ i hynny.”

Mae pennod gyntaf Bang (cynhyrchiad Joio ac Artists Studio) ar S4C heno (nos Sul) am 9 o’r gloch, ac mae is-deitlau Cymraeg a Saesneg ar gael. Bydd y gyfres hefyd ar gael i’w gwylio ar alw ar wefan S4C ac iPlayer y BBC.

Bydd hi’n cael ei dangos eto bob nos Wener am 10.30pm.