Fe fydd cyfres newydd o’r gyfres boblogaidd Deuawdau Rhys Meirion yn dechrau ar S4C nos Wener, Medi 22 (9.3opm).

Ymhlith y gwesteion mae’r canwr o Rosllanerchrugog, Daniel Lloyd, prif leisydd Daniel Lloyd a Mr Pinc sydd wedi cydweithio â Ricky Gervais a Tina Fey yn Muppets Most Wanted.

Mae hefyd wedi serennu ar lwyfan yn y West End yn The Commitments.

Fe fydd e’n un o restr hir o gantorion Cymru fydd yn paratoi am ddeuawd gyda’r canwr opera Rhys Meirion, a’r rhestr honno hefyd yn cynnwys Elin Fflur, Frank Hennessy, Alys Williams, Al Lewis a Lleuwen Steffan.

Byddan nhw’n perfformio caneuon o’u dewis eu hunain fel rhan o ddeuawd, ac yn mynd ati i ddysgu cân glasurol ar gyfer yr ail ddeuawd.

Bydd Osian Williams (Candelas) a’r pianydd Caradog Williams yn addasu’r caneuon ar gyfer y deuawdau.

Dod i adnabod Daniel Lloyd

Yn ystod y rhaglen gyntaf yn y gyfres, fe fydd Rhys Meirion yn mynd i Ŵyl Rhuthun i gyfarfod â Daniel Lloyd.

Byddan nhw’n mynd ar y trên i Amwythig i ymweld â’r platfform enwog lle cyfansoddodd Arwel Hughes dôn yr emyn Tydi a Roddaist, ac i Fangor lle cafodd y band Daniel Lloyd a Mr Pinc ei ffurfio.

Dywedodd Daniel Lloyd: “Fe gafodd y band Daniel Lloyd a Mr Pinc ei ffurfio pan o’n i’n byw yn Eldon Terrace ym Mangor.

“Mi roedd dod i Fangor yn newid byd i mi. Do’n i erioed wedi cael y fath gyfle i fwynhau nosweithiau o gerddoriaeth Gymraeg.

“Ysgrifennais i dair cân yn y llofft yn Eldon Terrace – A’i Esboniad, Tro ar ôl tro a Werth y Byd. Ymarfer y caneuon wedyn drosodd a throsodd.”

Eldon Terrace a Goleuadau Llundain

Bydd e a Rhys Meirion yn perfformio’r darn corawl Eidalaidd Miserere yng Nghadeirlan Bangor ac Eldon Terrace.

Bydd cyfle hefyd i weld fideo newydd sbon o Goleuadau Llundain, un arall o glasuron y band.

Ychwanegodd Daniel Lloyd: “Sesiwn recordio hwylus iawn yn stiwdio Sain ac mi roedd hi’n fraint cael ffilmio fideo yn y Gadeirlan ym Mangor.

“Uchafbwynt yr wythnos i fi oedd ffilmio fideo i fy nghân Goleuadau Llundain ar ben bws yn teithio drwy ganol Llundain gyda’r nos.