Mae S4C wedi cyhoeddi enw cyflwynydd newydd y rhaglen blant, Cyw.

Mae Elin Haf yn hanu o Faesycrugiau, Llanybydder, a hi fydd yn cyflwyno’r rhaglen bob dydd o Fedi 4 ymlaen.

Yn siarad â golwg360 ar faes yr Eisteddfod, mae’r cyflwynydd newydd wedi sôn am ei balchder o esgyn i’r swydd, wedi blynyddoedd o “waith caled”.

“Mae’n teimlo’n grêt,” meddai wrth golwg360. “Ers oeddwn i’n fach, oedd e’n freuddwyd i mi fod fel oedden nhw ar y teledu. Oeddwn i arfer gwylio Slot Meithrin ac yna Planed Plant.”

“Wnes i ddechrau trwy ymchwilio, yn y gobaith y byddai rhywbeth fel hyn yn datblygu ohono. Felly dw i mor falch bod hyn wedi digwydd…

“Mae’n benllanw gwaith caled ers gadael coleg a tra oeddwn i’n ysgol. Dw i’n falch iawn bod hyn wedi digwydd.”

O flaen y camera

Er bod Elin Haf yn fwy cyfarwydd â gweithio tu ôl i’r camera – bu’n ymchwilydd ar raglenni gan gynnwys Stwnsh Sadwrn a Dona Direidi – mae’n hyderus bydd ei phrofiadau o berfformio yn help iddi wrth gyflwyno.

“Mae’n mynd i fod yn rhyfedd i gamu tu blaen y camera ond dw i wedi bod ar raglen Tag yn ddiweddar, yn is gynhyrchu ar hwnna, ac yn cael fy annog i wneud pob math o bethau fel sketches ac eitemau gwahanol,” meddai.

“Felly mae hwnna wedi rhoi ychydig o brofiad i mi o flaen y camera. A hefyd mae bod yn aelod o glybiau ffermwyr ifanc a phethau fel hynna, wedi rhoi cyfle i mi fod ar y llwyfan eitha’ tipyn.

“Ond ydi, mae hwn yn mynd i fod yn brofiad gwahanol o fod tu ôl y camera.”

Diolch i’r Ffermwyr Ifanc

Mae Elin Haf yn ddirprwy swyddog ar Glwb Ffermwyr Ifanc Ceredigion ac yn ddiolchgar iawn i’r mudiad am roi’r hyder iddi fedru neidio o flaen y camera.

“Sa i’n credu bydden ni yma heddiw oni bai am y sail mae’r Clwb Ffermwyr Ifanc wedi rhoi i mi, o ran hyder a phrofiadau gwahanol gan gynnwys siarad yn gyhoeddus.

“Perfformio ar y llwyfan, barnu stoc, unrhyw beth. Mae lot o bethau fel hynna wedi helpu fi fod fan hyn heddiw.”