Christian Bale o Sir Benfro.
Mae pôl piniwn wedi ei gynnal ymysg darllenwyr y cylchgrawn ffilmiau Empire, er mwyn canfod y ffilm orau erioed.

Ar y brig mae The Godfather, ffilm am hanes y Maffia yn mynd o nerth i nerth yn America yn y ganrif ddiwethaf trwy ddulliau treisgar ac anfoesol.

Yn ail mae The Empire Strikes Back, yr ail ffilm Star Wars gan George Lucas.

Yn drydydd mae The Dark Knight, ffilm Batman gyda’r Cymro Christian Bale yn y brif ran.

Mae Silence of the Lambs, ffilm enwog lle mae’r Cymro Anthony Hopkins yn actio llofrudd gwallgof sy’n bwyta pobol, yn rhif 48.