Dylan Edwards
Dylan Edwards sydd yng Ngŵyl Ffilmiau Cannes ar ran golwg360

Hawdd yw darllen i mewn i bob math o ffilmiau alegorïau a throsiadau ynglŷn â sut rydym ni’n gweld a chlywed y byd a’i straeon. Wedi’r cyfan, pa gyfrwng gwell i ymdreiddio i’n ffyrdd o weld, clywed a phrofi’r byd na’r sinema? Prinnach yw’r ffilmiau sydd nid yn unig yn cyfleu rhamant a phŵer y synhwyrau hyn, ond yn eu gweu i mewn i’w plotiau i ddatgelu mewn ffyrdd gwreiddiol y berthynas rhwng clyw, golwg a sinema. Yng ngŵyl Cannes eleni, mae clwstwr o ffilmiau, nad oes ganddynt ond ychydig iawn yn gyffredin fel arall, yn gymheiriaid i’w gilydd yn yr ystyr eu bod yn cynnig ymdriniaethau gwreiddiol a phrin â gweld a chlywed, fel cysyniadau ac fel dyfeisiau naratif.

Yn Wonderstruck, gan Todd Haynes, deillia hud a dyfnder o’r naratif ddeuol, dwy stori sy’n plethu ychydig yn drwsgl i’w gilydd ond sy’n cyfuno i greu deinameg sy’n llawn dychymyg a phosibilrwydd. Mae hanner y ffilm yn arddull ffilm fud, a’i sylw ar ferch fyddar yn Efrog Newydd ar ddiwedd oes y ffilmiau mud, a’r hanner arall (‘presennol’ y ffilm) yn canolbwyntio ar fachgen yn y saithdegau sy’n dianc i’r ddinas wedi marwolaeth ei fam mewn damwain a’i gadawodd ef yn fyddar.

Mae’n ffilm sy’n ategu dwy ffilm amlwg a phoblogaidd – ar lefel arwynebol, The Artist, y pastiche o ffilm fud lwyddiannus iawn o 2011 ac, mewn ffyrdd cynilach efallai, Hugo gan Martin Scorsese, ffilm arall sy’n dilyn helyntion plentyn ifanc yn canfod lloches mewn dinas fawr anhysbys, ac sydd hefyd yn defnyddio stori’r plentyn i ymwneud â syniadau eang yn ymwneud â chelfyddyd a pherthyn. Yn nwy stori’r ffilm, ar y sain mae’n sylw’n bennaf. Yn y ddwy adran, ceir portreadau hynod synhwyrus o optegau llethol cyrraedd dinas newydd. Mae’r gallu i glywed yn rhywbeth mae’r rhan fwyaf ohonom yn ei gymryd yn ganiataol, a gyda’r ffilm hon mae Haynes fel petai’n galw am ymgysylltiad agosach â’r synnwyr hwn. Yn sensitifrwydd Wonderstruck ynghylch y modd y mae sain yn ffurfio’n hargraffiadau o’r byd, amlygir synwyrusrwydd penodol sy’n teimlo i mi yn ddigon unigryw.

Er mai dyma ffilm ddrutaf ac, o bosib, ffilm fwya hygyrch y cyfarwyddwr – mae’n debyg y caiff gylchrediad masnachol eang, ond dwi’n amau rhywsut a fydd hi’n hit anferth – ceir momentau ynddi sy’n adleisio ffilmiau cyntaf pytiog, radical ac arbrofol Haynes fel un o enfants terribles y don o gyfarwyddwyr queer a ddaeth i’r amlwg yng Ngogledd America yn y nawdegau cynnar. Yn Poison, ei lwyddiant nodedig cyntaf, er enghraifft, cawn dri naratif gwahanol, heriol sy’n gosod gweithiau’r awdur Jean Genet yng nghyd-destun cyfnod AIDS. Ac yn ei ffilm I’m Not There, o 2007, mae’n castio saith actor gwahanol i geisio portreadu personae amrywiol Bob Dylan drwy’r blynyddoedd. Drwy ddefnyddio yn Wonderstruck ddyfais gymharol radical ar gyfer stori a allai fel arall roi bod i ffilm deuluol dwymgalon, gall Haynes ysgogi cwestiynau am ffiniau genre a ffurf; a hyn oll yn deillio o’i ddefnydd o sain.

I rai yma, mae Wonderstruck yn gam gwag nobl mewn gyrfa arbennig. Ond profais i hi fel symffoni hudolus, amherffaith o syniadau a thechnegau annisgwyl, ac o ddyfeisgarwch pur. Byddwn fel arfer yn rhybuddio rhywun rhag gwylio trwy lens mor amrwd o auteur-aidd, ond dwi’n meddwl mai cyd-destun gyrfa Todd Haynes yw’r ffordd fwyaf ffrwythlon o gael y mwyaf o Wonderstruck.

Ffilm o Siapan

Cymeriadau byddar Wonderstruck sy’n gyrru’r holl naratif(au) ymlaen, a hyd yn oed arddull y ffilm. Mae byddardod hefyd yn chwarae rôl dyngedfennol yn naratif Radiance, gan Naomi Kawase, ffilm arall ym mhrif gystadleuaeth Cannes a gafodd ei dangos i ni aelodau blinedig, gor-gaffeinated y wasg ryngwladol fore dydd Mawrth. Mewn dinas Siapaneaidd gyfoes, dilynwn ddynes ifanc sensitif sy’n gweithio ar draciau sain-ddisgrifiad ffilmiau. Mae’r broses hon yn ei rhoi mewn cyswllt â grwpiau o bobol fyddar sy’n ei chynghori am ei gwaith, yn aml mewn ffyrdd gwrthdrawiadol. Mae un o’r dynion dall yn fwy ymosodol na’r lleill – yn wrthwynebus i’w disgrifiadau, ei dulliau gweithio a’i dehongliadau. Ar y berthynas rhwng y ddau gymeriad yma y mae prif ffocws y ffilm, ac mae hi’n berthynas a ddatblygir yn gynnil a chelfydd. Neilltuir talpiau helaeth o drac sain y ffilm i ddisgrifio’r hyn sydd ar ein sgrin, tueddiad y mae’r prif gymeriad yn ei gymryd ymhell o’i gweithle.

Anodd yw gorbwysleisio faint mae’r mwyafrif o feirniaid rhyngwladol Cannes yn edrych i lawr ar Kawase – bob tro mae un o’i ffilmiau yn ymddangos yn Cannes (a dyma’i phedwerydd ymddangosiad yma y degawd hwn) ceir llawer o hwyl rhwng beirniaid ar Twitter yn bychanu emosiwn cryf ei ffilmiau a’u perthynas agos â’r ŵyl. Yn wir, mae ei ffilmiau’n tueddu i fod yn sentimental ac yn anffasiynol (sydd yn beth gwahanol iawn i ddiffyg steil). Ond er nad ydy hon ymysg ei gweithiau cryfaf, mae rhythmau sensitif y ffilm a’i golwg blaen ar berthynas rhwng dau berson yn chwa o awyr iach yn y brif gystadleuaeth.

Os ydy’r ffilmiau hyn yn rhoi’r lle blaenaf i’r clyw fel sbardun i ymdreiddio i’r ffyrdd mae’n synhwyrau’n siapio’n profiad o’r byd, gwna dwy ffilm yma rywbeth tebyg â’r synnwyr gweld. Dyma ddwy ffilm sy’n syrthio tu allan i gategori ffilmiau ffuglennol; un o Ffrainc ac un o Iran; un gan gyfarwyddwraig a dathlodd ei 88fed pen-blwydd eleni, y llall gan un a fu farw’r llynedd.

Ffilm draethawd

Mae Visages Villages, cyfunwaith gan Agnès Varda a’r artist gweledol JR, yn ffilm draethawd dwyllodrus o syml ac ysgafn. Mae’r cyfarwyddwyr yn cynnal taith o gwmpas ardaloedd gwledig Ffrainc i greu darnau cymunedol o gelf gyhoeddus, gan dynnu lluniau o wynebau a chyrff dinasyddion cyffredin, eu chwyddo’n anferth a’u plastro ar adeiladau. Dyma fwy neu lai’r prosiect sy’n cynnal y ffilm. Ceir yma felly ar lefel arwynebol bortread o artistiaid a chymuned, celfyddyd a thirwedd.

Ond yn raddol, cawn arwyddion bod yna fwy yn digwydd yma ar lefel meta nag y byddem ni’n ei amau ar ddechrau’r ffilm. Un olygfa fer ynghanol y ffilm yn arbennig a gydiodd yn fy nychymyg. Gwelwn Varda mewn apwyntiad gydag optegydd, yn cael chwistrelliad yn ei llygaid – dysgwn ei bod hi’n colli ei golwg. Dyma ddelwedd sy’n ysgogi melancoli yn y gwyliwr, o weld yr eicon yma yn sinema Ffrainc ar ei mwyaf bregus; portread o’r artist fel person oedrannus sy’n dirywio. Mae hi’n chwarae hyn i lawr, gan gyfeirio at yr olygfa enwog o lygad yn cael ei sleisio gan gyllell yn Un Chien Andalou. Astudiaeth gynnil yw’r ffilm (a’r prosiect celfyddydol mae’n ei ddarlunio) o ba mor freintiedig ydym ni i allu gweld y byd, ei holl ogoniant a’i holl wynebau, bob dydd.

Arbrawf mewn arafwch

Lle bo Visages Villages yn obsesiynu am bresenoldeb pobol ymysg pobol a chyrff fel canolbwynt i gymdeithas, does braidd dim un corff dynol yn ymddangos ar y sgrin am ddwy awr gyfan yn ystod 24 Frames, y ffilm olaf i Abbas Kiarostami weithio arni cyn ei farwolaeth yr haf diwethaf (er na chafodd ei chwblhau). Gellir disgrifio’r ffilm fel arbrawf mewn arafwch, a’i sbardun yw anfodlonrwydd y cyfarwyddwr â’r ffaith mai 24 ffrâm sydd mewn eiliad o amser ffilm. Y bwriad ydy herio’r cysyniad bod i’r rhyddid honedig a gynrychiolir gan y sinema o ran lluniau llonydd ei gyfyngiadau ei hun, trwy gyfansoddi dwy awr o ffilm o gwmpas 24 llun yn unig; yn gyntaf paentiadau, yna ffotograffau a dynnwyd gan y cyfarwyddwr. Mae pob ‘ffrâm’ felly yn para tua phedair munud o amser sgrin, a’r cyfarwyddwr yn dangos beth mae’n dychmygu sy’n digwydd o gwmpas y llun – hynny ydy, mae’n rhyddhau’r ddelwedd o’i llonyddwch. Dim bod unrhyw beth yn digwydd yn y vignettes yma ran amlaf. Dyma’r pwynt: dangos sut mae’r byd yn troi p’un a oes camera yno ai peidio.

Ceir awgrymiadau o’r ôl-ddynol a’r ôl-sinematig – a hyd yn oed y cyn-ddynol a chyn-sinematig? – eisoes yn y vignettes llonydd (ond nid cwbl lonydd) hyn, a ddwyseir gan ein sylweddoliad mai dyma destament sain-weledol olaf Kiarostami, un o gewri’r sinema ryngwladol ers yr wythdegau, a enillodd y Palme d’or- yma yn union ugain mlynedd yn ôl â’i ffilm Taste of Cherry.

Trwy gydol ei oeuvre, rhed ymdriniaethau â’r berthnas rhwng y ddynoliaeth a’r ddelwedd sydd wedi’i chyfryngu, mewn ffilmiau megis Close-Up, campwaith o 1990 lle mae dyn tlawd sy’n honni ei fod yn gyfarwyddwr ffilm enwog yn ymgartrefu gyda theulu, a Copie Conforme, o 2010, sy’n codi cwestiynau am y rhwymyn rhwng gwyliwr a thestun drwy atal gwybodaeth graidd (a chamarwain yn bwrpasol) am wir natur perthynas y cwpwl sydd yn llenwi pob golygfa. Ac yn ei sgil, mae astudiaethau chwareus a hunangyfeiriol o’r tensiynau rhwng realiti a’r dyfeisiedig, a rhwng delwedd a’i thestun, wedi dod yn un o brif nodweddion sinema Iran i gynulleidfaoedd rhyngwladol. Fe’i gwelir yng ngwaith cyfarwyddwyr megis Jafar Panahi, syn ymdrin â’r syniadau hyn yng nghyd-destun sensoriaeth llywodraeth y wlad ar ei waith.

Ond er i sawl un o’i ffilmiau chwarae ag estheteg arafwch, does yr un o weithiau Kiarostami (sy’n cynnwys ffilmiau byrion a hir, ffuglen a dogfen) wedi ymroi mor ddwfn â 24 Frames i ysgogi myfyrdod a meddylgarwch dwys yn ei gwyliwr. Rhaid cyfaddef bod hon yn ffilm sy’n teimlo’n llawer mwy gwerth chweil o fyfyrio drosti nag wrth ei gwylio; yn ôl y sôn, fe’i bwriadwyd ar gyfer cyd-destun oriel. Ond mae’n goda addas, ysgogol i yrfa bwysig. Fel albyms olaf Bowie neu Leonard Cohen, neu fel No Home Movie, ffilm draethawd a gwblhawyd gan Chantal Akerman yn 2015 fisoedd cyn ei marwolaeth, mae gyriad ysbrydol mawreddog yn hongian dros y gwaith hwn, sy’n creu’r ymdeimlad bod artist mawr yn cyfathrebu â ni o’r bedd trwy ei ddelweddau.

Mae gen i gydymdeimlad â’r safbwynt damcaniaethol fod pob ffilm yn stori ysbryd; mai prif swyddogaeth y cyswllt rhwng testun a chamera ydy’r posibilrwydd (neu’r rheidrwydd?) y bydd y testun hwnnw’n goroesi tu hwnt i’w bresenoldeb bydol ‘real’ trwy gael ei ddal ar ffilm (neu, os nad ar ‘ffilm’ erbyn hyn, ar ffeil). Ymdrinia’r grŵp amrywiol yma o ffilmiau yn Cannes eleni â’r cysyniad hwn mewn ffyrdd anghyffredin. Pleser amgylchedd fel Gŵyl Ffilmiau Cannes ydy ei bod yn ein gorfodi i ystyried syniadau gwahanol ynghyd â’i gilydd, ac i daro goleuni ar gysylltiadau a chymariaethau na fyddem ni’n eu gwneud fel arall. Gyda themâu mor elfennol â golwg a chlyw, does dim terfyn ar allu sinema i wthio, i bryfocio ac i ehangu’n dealltwriaeth o’r byd fel rydym yn ei weld.