Bryn Fôn fel y cymeriad Dr Elgan Pritchard (Llun: BBC Cymru)
Bryn Fôn ydi’r enw mawr diweddara’ sy’n ymuno â chast opera sebon Pobol y Cwm.

Fe fydd yr actor a’r canwr o Ddyffryn Nantlle i’w weld ar y sgrin am y tro cyntaf yn opera sebon deledu hynaf y BBC nos Lun, Ebrill 10, wrth i’w gymeriad, Doctor Elgan Pritchard, gael ei alw i ddigwyddiad yn Llwyncelyn.

“Dw i’n sylweddoli pa mor fawr ydi o a pha mor bwysig, a chymaint o ran ydi Pobol y Cwm o fywydau pobol ar draws Cymru,” meddai Bryn Fôn, “felly mae’n gynhyrfus iawn.

“Fel rhywun sy’n arfer mynd o job i job, fel arfer o fewn wythnosau i’w gilydd, mae meddwl am fod ynghlwm â rhywbeth am gyfnod hir hefyd yn brofiad newydd i mi.

“Mae hynny’n rhan o’r cynnwrf, mewn ffordd – bod yn rhan o greu cymeriad newydd sy’n mynd i ddod â stori newydd i’r Cwm, a dod â rhyw ddeinamig newydd i’r pentre’. A gobeithio y bydd o’n rhywbeth cynhyrfus i’r gwylwyr.”

Mae Doctor Elgan Pritchard yn ddyn onest a chynnes ac yn ennyn diddordeb nifer o ferched y Cwm.

Yn syth ar ôl darllediad Pobol y Cwm ar S4C am 8pm nos Lun, bydd cyfweliad arbennig hefo Bryn Fôn yn fyw ar gyfrif Facebook BBC Cymru Fyw, gyda Lisa Gwilym yn holi ac yn trosglwyddo rhai o gwestiynau’r gwylwyr yn uniongyrchol iddo.

Daw’r newyddion am gymeriad newydd Bryn Fôn yn sgil y cyhoeddiad diweddar bod John Ogwen hefyd yn ymuno hefo Pobol y Cwm fel y cymeriad Josh nos Wener, Ebrill 7.