Fydd y ddau gyfrifydd oedd yn gyfrifol am gamgymeriad mawr yng ngwobrau’r Oscars ddydd Sul, byth yn gweithio ar y seremoni eto.

Mae swyddogion yr Academi Ffilm wedi cadarnhau hefyd fod ei pherthynas â chwmni PriceWaterhouse Coopers yn y fantol, er bod y cwmni hwnnw wedi bod yn gyfrifol am warchod hygrededd y gwobrau ers 1936.

Fe ddigwyddodd y camgymeriad mwya’ yn hanes y gwobrau ffilm nos Sul ddiwetha’, pan gyhoeddwyd enw’r ffilm anghywir yn enillydd yr Oscar am ffilm orau.

Fe ddaeth hi i’r amlwg mai’r cyfrifwyr Brian Cullinan a Martha Ruiz oedd yn gyfrifol am yr amlenni, ac am eu rhoi i gyhoeddwyr y gwobrau, yn y seremoni. Ond roedd Brian Cullinan wedi cyhoeddi llun o’r actores, Emma Stone, ar ei gyfri’ Twitter ychydig funudau cyn rhoi’r amlen gyfrinachol yn cynnwys enw’r ffilm orau i’r cyflwynwyr Warren Beatty a Faye Dunaway.

Dyna arweiniodd at y pâr yn cyhoeddi mai La La Land oedd y ffilm orau, yn hytrach na’r enillydd go iawn, Moonlight.

Mae cwmni PriceWaterhouse Cooper yn dweud mai’r ffaith bod Brian Cullinan â’i feddwl ar bethau eraill, oedd yn gyfrifol am y camgymeriad.