Emma Stone, enillydd Oscar yr actores orau am La La Land (Llun: Ian West/PA Wire)
Roedd ’na ddryswch yn seremoni’r Oscars yn Los Angeles neithiwr ar ôl i Moonlight ennill y ffilm orau ond fe gyhoeddwyd drwy gamgymeriad mai La La Land oedd yr enillydd.

Roedd cynhyrchwyr La La Land yn dod a’u hareithiau i ben pan ddatgelwyd bod camgymeriad wedi bod a Moonlight oedd wedi cipio’r Oscar.

Dywedodd y cynhyrchydd Jordan Horowitz: “Mae ’na gamgymeriad. Moonlight, chi enillodd y ffilm orau. Nid jôc ydy hyn.”

Cafodd La La Land ei henwebu am 14 Oscar, gan ennill chwech, gan gynnwys yr actores orau i Emma Stone a’r cyfarwyddwr gorau i Damien Chazelle, sy’n 32 oed, yr enillydd ieuengaf i gipio’r wobr.

Casey Affleck enillodd y wobr am yr actor gorau am ei rôl yn y ffilm Manchester By The Sea.