Mae’r consuriwr, Paul Daniels, wedi cyhoeddi heddiw ei fod yn diodde’ o ganser nad oes gwella ohono.

“Fe allwn gadarnhau heddiw fod un o’r diddanwyr a’r consurwyr gorau erioed, Paul Daniels, wedi derbyn diagnosis fod ganddo diwmor ar yr ymennydd nad oes modd ei drin,” meddai’r datganiad gan ei asiant.

“Ar ran Paul, Debbie a’u teuluoedd, diolch am bob neges o gefnogaeth ar yr adeg anodd hon, ond maen nhw’n gofyn i bawb barchu eu preifatrwydd.”