Dylan Edwards
Ail flog Dylan Edwards o Ŵyl Ffilmiau Cannes, ac mae un ffilm wedi ei hudo nôl …

Pethau doniol yw graddfeydd; ar ôl pedwar diwrnod yng Nghannes mae’r byd yn teimlo maint gwahanol. Dw i’n rhedeg ar fawr mwy na’r siots o Nescafe chwaethus sydd am ddim i aelodau’r wasg tu fewn i’r Palais (mae’r Ffrances ifanc tu ôl i’r cownter yn hen gyfarwydd â’m harcheb erbyn hyn) a wi-fi gwan y McDonalds gyferbyn.

Does neb sy’n hongian o gwmpas y stafell a neilltuir ar gyfer y wasg o fewn y Palais wedi cael mwy na phump awr o gwsg ers o leia’ dydd Mawrth, nac yn sicr wedi treulio llai na 12 o’u 24 awr ddiwethaf mewn dangosiadau ffilm. Mae bagiau dan lygaid pawb, a’r dyddiau braf yn gwaedu i mewn i’w gilydd.

Gall y byd go iawn deimlo fel petai e ddim wedi bodoli erioed mewn gŵyl fel hon. Roedd llawer o’r buzz cyn dangosiad cyntaf The Lobster, sy’n cael ei ddangos fel rhan o’r prif Compétition, yn ddibynnol ar y cysyniad mai dyma ‘foment’ Yorgos Lanthimos, y cyfarwyddwr Groegaidd, i dorri drwodd a gwneud y naid i big leagues sinema ryngwladol. Mae Lanthimos, ym mybl Cannes, yn seren, yn arwr, ac yn cult, ar ôl llwyddiant Dogtooth chwe blynedd ’nôl. Ni fyddai (yn llythrennol) unman arall yn y byd lle mae gan ei enw gymaint o ddylanwad; ond mae’n bosib na fydd hynny’n wir ar ôl i bawb weld y ffilm hon.

Lanthimos yw un o’r mawrion o blith cyfarwyddwyr Ewrop sy’n cyrraedd Cystadleuaeth Cannes eleni â ffilm iaith Saesneg am y tro cynta’. Yn fy mlog cynta’, soniais am fy anfodlonrwydd â ffilm Saesneg gyntaf Matteo Garrone, Tale of Tales. Ond mae artiffisialrwydd yn rhan hollbwysig o steil Lanthimos.

Dystopia swreal The Lobster


Colin Farrell yw un o'r actorion yn The Lobster (llun: Tony Shek)
Comedi alegorïaidd absẃrd yw The Lobster, gyda Colin Farrell yn ei elfen mewn dystopia amhenodol mewn gwlad anhysbys – dyn sy’n dod allan o berthynas ac yn aros mewn gwesty ar gyfer pobol sengl lle mae gan bawb 45 diwrnod i gwympo mewn cariad cyn cael eu troi yn anifeiliaid.

Un o linynnau comig doniola’r ffilm yw clywed esboniadau pawb am ba anifail maen nhw wedi ei ddewis. Er mor gymhleth y mae hynny’n ymddangos, man cychwyn yw’r gefnlen hon ar gyfer astudiaeth swreal, amlhaenog o’r gwahanol ffyrdd y mae pobol yn ymdopi ag unigrwydd a’u hiraeth am ddedwyddwch. Mae pob un aelod o’r cast rhyngwladol – sy’n cynnwys Rachel Weisz, Ben Wishaw, sawl actor o Wlad Groeg, ac Olivia Colman fel rheolwraig ormesol y gwesty – yn ffitio’n berffaith ym myd creulon, llachar a hunanymwybodol Lanthimos.

Mae’n ddiddorol sut mae rhyw lymder esthetig Groegaidd iawn yn rhan annatod o gymeriad gweledol ffilmiau cyfoes y wlad honno. Gyda’r ffilm hon, gwelwn Lanthimos yn ymestyn yr elfen hon o’i steil – sy’n llawn stafelloedd bocsaidd, lliwiau annifyr, ac onglau camera – a’i gwthio i fan mwy cyflawn a mwy hygyrch.

Mae’r llymder hwn – fu mor ddifrifol ac aflonydd yn ei ffilmiau cyn hyn – yn plethu’n wefreiddiol â chomedi gwirion, wirioneddol ddoniol byd a sefyllfaoedd y ffilm. Mae The Lobster yn wefreiddiol; mae’n amhosib gofyn iddo am atebion nac am synnwyr ond mae’n llwyddo i dylino hyn i fod yn rhinwedd. Mae’r ffilm fel siot o fywyd yn y gystadleuaeth.

Gweiddi a bwian

Mae mor hawdd colli trac ar yr holl ffilmiau dw i wedi eu gwylio dros y dyddiau diwethaf. Tybiwn fod Saul Fia yn ffefryn am wobr naill ai i’r cyfarwyddwr – y cyntaf i gael ei ddewis i ddangos ei ffilm gyntaf yn y gystadleuaeth mewn pedair blynedd – neu un o’r gwobrau sydd ris i lawr o’r Palme d’Or. Ond i mi roedd y ddrama Holocaust hon o Hwngari yn rymus, ac iddi steil unigryw, ond ddim yn ddigon newydd na gafaelgar i wir ennyn fy mrwdfrydedd.

Ar fympwy, es i i weld ffilm o Wlad yr Iâ, Hrutar, neu Rams, sef ffilm am ddau frawd, ffermwyr defaid, sy’n byw mewn tai drws nesaf i’w gilydd ond sydd heb dorri gair ers degawdau. Er ’mod i’n weddol hoff o’r ffilm, dechreuodd mewn ffordd un-nodyn, orgyfarwydd (mae close-ups o anifeiliaid mewn poen a golygfeydd hir un-take o gaeau yn uchel ar y rhestr ddamcaniaethol o clichés ffilmiau arthouse), a chafodd drafferth i ddod yn fwy gafaelgar heb fynd yn fwy confensiynol ar yr un pryd.

Cyn mynd i’r dangosiad fore ddoe, roeddwn i’n hanner gobeithio y byddai beirniaid enwog Cannes yn gweiddi a bwian a hisian ar ddiwedd ffilm newydd Woody Allen, Irrational Man – ond y peth mwya’ siomedig oedd nad oedd hyd yn oed yn ysgogi unrhyw fath o angerdd. Ffilm yw hon sy’n gwella wrth iddi fynd yn ei blaen ond sy’n hyll mewn llawer o ffyrdd, yn arwynebol ei gweledigaeth, a byth yn gwneud ymdrech i geisio canfod ei thôn ei hun.

(Yn hytrach, arbedwyd ymateb wirioneddol hunllefus gyntaf Cannes ar gyfer Sea of Trees, gyda Matthew McConaughey, yr unig ffilm Compétition i mi beidio ag ymdrechu â hi hyd yma.)

Clod i Desplechin


Y cyfarwyddwr Arnaud Desplechin (llun:Georges Biard)
Yn sicr, y gynulleidfa fwyaf brwd ei hymateb i mi fod yn rhan ohoni oedd cynulleidfa My Golden Days gan Arnaud Desplechin. Mae e’n un o’r cyfarwyddwyr mwya’ Ffrengig gallwch chi ddychmygu, ac wedi i’w ffilm Saesneg gynta’, Jimmy P, gael ymateb gwael ym mhrif gystadleuaeth Cannes dwy flynedd ‘nol, mae ei ffilm newydd yn chwarae fel checklist o nodweddion cyfarwydd ffilmiau Ffrangeg.

Ond mae hefyd yn un o’r ffilmiau rheiny lle mae pob un olygfa yn gryfach na’r un sy’n dod o’i blaen. Serch hynny, mae’n ymddangos yn adran Quinzaine des Réalisateurs, gan brofi eto bod gan safleoedd ffilmiau yn yr ŵyl fwy i’w wneud â derbyniad ffilmiau diwethaf y cyfarwyddwyr nag ansawdd eu ffilmiau newydd.

Ffilm ddod-i-oed a stori ramant synhwyrus yw My Golden Days, sydd wedi ei thrwytho â nostalgia melys ond hefyd deallusrwydd a steil bersonol iawn sydd yn ei gosod ar wahân yn yr ŵyl eleni. Mewn gŵyl lle mae cymaint o ffilmiau yn straffaglu i fod yn wahanol neu’n idiosyncratig, roedd natur gwbl gyfarwydd a Ffrengig a Truffaut-aidd y ffilm hon yn teimlo bron yn adfywiol. Roedd beirniaid Ffrainc yn sicr yn cytuno; ar ôl pum munud o sefyll a chymeradwyo dechreuais deimlo ychydig yn lletchwith. Neithiwr oedd hyn – a synnwn i ddim petaen nhw’n dal ar eu traed.

Ailwylio Arabian Nights

Yn adran Quinzaine yr ŵyl dwi wedi cael y lwc orau hyd yma, o feddwl am y peth. Fore dydd Sadwrn, ffeindiais y ffilm fydd, mae’n debyg, yn hoff ffilm gen i yn Cannes 2015; neu, fe ddylwn ddweud, rhan gyntaf fy hoff ffilm yn Cannes 2015, am mai ffilm chwe awr yw Arabian Nights, a achosodd i gryn dipyn o aeliau godi pan nad ymddangosodd ym mhrif lein-yp y Compétition.

Astudiaeth banoramig o bobol Portiwgal yn ystod yr argyfwng ariannol yw’r ffilm(iau), wedi ei llenwi â dicter gwleidyddol Portiwgeaidd penodol iawn, straeon yn gorgyffwrdd ac yn neidio o un i’r llall, penodau o fewn penodau o fewn straeon o fewn penodau, ac elfen gref o swrealaeth. Dyma ffilm sydd – hyd yma – yn achosi i’r pen droi ac i’r meddwl rasio.

Am y rhan fwyaf o’r broses gynhyrchu, roedd arianwyr y ffilm yn credu mai addasiad o’r straeon ffantasïol Arabian Nights roedd Miguel Gomes yn ei wneud. Ond defnyddio’r straeon fel pwynt cyfeirnodol yn unig y mae, gan gynnwys elfennau ffantasïol: i ychwanegu elfen o gomedi ac ysgafnder, i ddatgelu abswrdiaeth y sefyllfa wleidyddol y mae’n bwrw goleuni arno, ac i drafod y broses o addasu ei hunan. Ym mhrolog gafaelgar y rhan gynta hon, clywn a gwelwn y cyfarwyddwr ei hun yn dod i delerau â’r drafferth o greu gwaith celf am fydoedd amhosib pan mae’r angen am gelf sy’n dygymod â’r ‘nawr’ mor gryf.

Ac er mor benodol yw’r sefyllfaoedd yn y ffilm, gall y portread hwn gael ei ddarllen yr un mor hawdd fel portread o unrhyw wlad neu ddiwylliant sydd dan reolaeth elitaidd ac annheg. Gweithiodd Gomes â newyddiadurwyr wrth ffilmio, gan ddiweddaru ei straeon a’i gyfeiriadau wrth fynd ymlaen i sicrhau cyfoesedd yr argyfwng. Cefais fy swyno, fy anesmwytho a fy nghyffroi gan yr holl bosibiliadau o fewn y rhan gynta’ hon.

Dw i ar fin gwneud rhywbeth doeddwn i byth yn meddwl y byddwn i’n ei wneud yn Cannes. Roedd dangosiad Arabian Nights: Vol. I am 11:45 y bore ’ma; ar ôl sgwennu hwn, yn hytrach na rasio i ddangosiad ffilm arall, dw i am gerdded yn ôl i’r un sinema a setlo ar gyfer dangosiad 17:45 o’r un ffilm.

Erbyn amser cinio dydd Mercher, felly, bydda i wedi treulio (o leia’) wyth awr yn gwylio’r un ffilm. Dyma’r ffilm ddes i i Cannes i‘w gweld; dyma ffilm ar gyfer nawr.