Fe wnaeth yr actores Olivia Colman ennill ei thrydedd wobr deledu Bafta mewn dwy flynedd am ei rhan yn y ddrama Broadchurch neithiwr.

Fe wnaeth ei chyd-actor yn Broadchurch, David Bradley, hefyd ennill y wobr am yr actor  cynorthwyol gorau, a’r gyfres aeth a’r wobr am y ddrama orau hefyd.

Roedd hi’n noson dda hefyd i Ant a Dec  wrth iddyn nhw ennill dwy wobr am y perfformiad gorau mewn rhaglen adloniant a’r rhaglen adloniant gorau am Saturday Night Takeaway.

Sean Harris aeth a’r wobr am yr actor gorau am ei berfformiad yn Southcliffe.

Roedd enillwyr eraill yn cynnwys Julie Walters, wnaeth dderbyn gwobr cymrodoriaeth Bafta a chafodd Cilla Black wobr arbennig Bafta am ei chyfraniad i’r byd adloniant.

Sarah Lancashire enillodd y wobr am yr actores gynorthwyol orau am ei rôl yn Last Tango in Halifax  a Gogglebox enillodd y Bafta am raglen realiti a ffeithiol orau.

Him and Her gafodd ei enwi’n  sitcom orau ac In The Flesh a enillodd y Bafta am y gyfres fer orau.

Fe wnaeth The IT Crowd ennill dwy wobr am y perfformiad benywaidd orau mewn rhaglen gomedi i Katherine Parkinson a’r perfformiad gwrywaidd gorau mewn rhaglen gomedi i’r actor Richard Ayoade.

Breaking Bad aeth a’r wobr am y rhaglen ryngwladol orau ac aeth y wobr am y ddrama sengl orau   i ddrama Channel 4,  Complicit.

Enillodd Bedlam y Bafta am y gyfres ffeithiol orau, cyn i Doctor Who: Day of the Doctor fynd a gwobr y gynulleidfa’r Radio Times.