Rhybudd: Mae’r darn yma’n trafod pumed pennod ‘35 Diwrnod’ ar S4C. Peidiwch â’i ddarllen os nad ydych chi wedi gwylio’r bennod.

Ciron Gruffudd sydd wedi bod yn gwylio…

Dyw Jan ddim yn gweithio i gwmni awyrennau wedi’r cwbl; mae Tony yn ddyn drwg iawn, iawn; mae Cerian wedi gwneud rhywbeth ofnadwy ac mae Beti’n honco bost.

Ond be ddysgon ni ym mhennod ddiweddaraf ‘35 Diwrnod’? Llawer o ddim byd newydd.

Ac yn dilyn pennod dda iawn yr wythnos diwethaf, mae’r ddrama unwaith eto’n llusgo fel malwen dros gol-tar.

Jan

Dwi wedi dweud a dweud bod angen iddi uwchraddio ei system diogelwch ac roeddwn i’n dweud hynny oherwydd fy mod i’n gwybod ei bod hi’n mynd i gael ei lladd.

Ond ymddengys mai llofruddiaeth yw’r lleiaf o’i phroblemau wedi iddi gael ei threisio gan Tony. Perfformiad cryf gan Lois Jones fel Jan yn dilyn yr ymosodiad ond, yn anffodus, does dim digon o gig a gwaed ar y cymeriad i wneud i ni boeni amdani.

Roedd y bennod wedi dechrau’n addawol serch hynny wrth i ni weld ei bod hi’n nyrs ac yn byw gyda rhywun sydd wedi dod allan o’r carchar yn ddiweddar. Ond beth mae o yn ei wneud yn derbyn gwn ben bore a beth mae Jan am ei wneud gyda’r gwn nawr ei fod yn ei meddiant?

Mae hynny’n cymhlethu pethau rhywfaint ac yn gwneud i ni amau ai ar ôl Richard y mae hi wedi’r cwbl, gan fod Huw James yn gweithio mewn carchar. Ond gawn ni weld am hynny decini.

Y Teulu Jenkins

Mae’r mab afradlon yn ei ôl! Wrth gwrs mai yn ei stafell wely’n gwrando ar gerddoriaeth oedd o, nid yn cuddio yn y cysgodion yn nhŷ Jan.

Dw i’n ei gweld hi’n od bod Sali wedi gwahodd Jan am swper ond mae’n siŵr bod ganddi ei rhesymau – amau ei gŵr o fod yn anffyddlon eto yw un ohonyn nhw mae’n siŵr.

Ac mae ganddi le i boeni ynghylch Richard. Mae’r wobr am hyfdra’r wythnos yn mynd iddo am roi cusan i Jan wrth ei ddrws ffrynt a’i wraig yn y gegin, gwta droedfeddi i ffwrdd.

Daeth hi i’r amlwg eto eu bod nhw’n ffans mawr iawn o Steve Eaves yn eu tŷ nhw. Does dim rhyfedd bod y mab yn cuddio yn ei ystafell wely a bod pawb mor anhapus osdyna y maen nhw’n gwrando arno wrth y bwrdd bwyd pob nos.

Ond beth yw cyfrinach Cerian? Be mae hi wedi ei wneud sy’n gwneud iddi deimlo mor ofnadwy? Oes gennych chi unrhyw syniadau?

Y Morisiaid

Does ryfedd bod Ben druan wedi bod yn dioddef o anhwylder meddwl. Doedd ei dad o ddim yn un i ddelio a phwysau’n dda iawn ac mae ei fam rŵan yn gweld a chlywed pethau.

Yn amlwg, mae meddwl Ben mewn gwell lle. Rydan ni’n gwybod hynny oherwydd ei fod o wedi cadw drws ei loft ar agor yn hytrach na’i gau – sytl iawn.

Dw i ddim yn siŵr beth oedd y shots agos o wyneb Beti cyn iddi fynd i gnocio ar ddrws ffrynt Jan chwaith. Dw i’n cymryd mai ffordd o ddangos ei dirywiad hi mewn cyfnod byr oedd o ond roedd y canlyniad yn edrych fel fideo cerddoriaeth i gân drist am henaint gan Steve Eaves.

Huw a Caroline James

Mae Huw wedi cadw ei swydd ac mae pethau’n edrych ar i fyny iddo. Ond mae Caroline, ar y llaw arall, mewn trafferthion dybryd.

Ond, os ydych chi’n taro bargen â’r diafol, mae pethau’n siŵr o fynd o chwith. Gwers i bawb i beidio ag ymddiried yn Tony.

Ond wn i ddim pam ei bod hi’n poeni cymaint am golli’r tŷ beth bynnag. Rŵan bod Huw wedi penderfynu peidio gwerthu cyffuriau i wneud arian ychwanegol, siawns y bydd rhaid iddyn nhw symud i gartref llai maes o law?

Tony, Pat a Linda

Tony, Tony, Tony. Y dyn mwya’ drwg welodd ystâd Crud yr Awel erioed. Rydan ni’n gwybod ei fod o’n ddrwg ers y bennod gyntaf – a pheidiwch ag ymddiried yn unrhyw un sydd ag offer codi pwysau yn ei garej  – ond mae treisio’r ddynes drws nesa yn dangos ffieidd-dra newydd yn ei gymeriad.

O leia’ mi gawson ni wybod pam fod merch mor ddiniwed a chlên a Linda yn ymwneud ag o. Mae o’n amlwg yn mynd am ferched sydd mewn gwendid ac yn manteisio ar hynny.

Un peth yr hoffwn i ei weld cyn diwedd y gyfres yw ffeit rhwng Tony a Pat. Dyrnau allan a phaffio fel oedden nhw erstalwm. Mi fyddai hynny’n gwneud y gyfres i mi.

Ond beth am Pat? Mae hi’n dechrau amau ei hun a phwy yw hi ond yw hynny oherwydd ei bod hi’n caru Linda? Dyna dwi’n ei feddwl beth bynnag.

Hefyd, os mai Patrick oedd ei henw hi cyn byw fel dynes, pam dewis Patricia fel enw wedyn? Hawdd i bobl eraill gofio debyg.

Moment yr wythnos

Dim ond meddwl am Caroline yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd sydd raid i mi a dwi’n gwenu fel giât. Ar wahân i hynny, roedd hi’n dlawd iawn yr wythnos hon.