Daniel Johnson sydd yn bwrw golwg dros sut mae pethau’n edrych…

Yn ddiweddar, mae ‘na di bod nifer o raglenni tywyll, ‘noir’ yn sgubo ar draws sgriniau ystafell fywion ein gwlad.

Ers i ‘The Killing’ gael ei ddarlledu ar BBC4, mae nifer o raglenni wedi ceisio ennyn yr un gymeradwyaeth, gan gynnwys ‘Y Gwyll’ nawr ar S4C. Gan fy mod i’n wyliwr garw o raglenni o’r modd yma, a gan ei fod wedi ei leoli yn Aberystwyth, ddim yn bell o adre, cymres i sylw yn syth pan gafodd ei gyhoeddi.

Pan rydych yn ystyried hefyd fod y sioe wedi cael ei gymryd fyny gan BBC4 hefyd, does na’m syndod ei fod wedi dal sylw ar draws y Deyrnas Unedig, nid dim ond yng Nghymru fach.

Golygfeydd godidog

Yn cynnwys wyth rhifyn, dau bob wythnos, mae’r sioe yn dilyn DCI Tom Mathias, a’i griw ffyddlon o dri wrth iddyn nhw geisio datrys llofruddiaeth newydd pob wythnos.

Canolbwyntiodd y ddwy bennod gyntaf ar lofruddiaeth hen ddynes, Helen Jenkins, yn ei thŷ yn Borth. Drwy saethu ar leoliad o gwmpas Aber, mae’r cyfarwyddwr, Marc Evans, wedi llwyddo i greu teimlad atmosfferig, dirgel, yn enwedig yn y golygfeydd ym Mhontarfynach.

Mae’r pentref a’r gwesty yn edrych yn hynod o unig, ac yn llawn hanesion cudd. Yn wir, mae pob lleoliad o fewn y sioe wedi ei ddewis yn berffaith, a gallwn ddweud fod y tirlun yn gymeriad ei hunain.

Gall yr un peth gael ei ddweud am yr ail wythnos o raglenni, wrth i’r heddlu geisio darganfod pwy laddodd Idris Jenkins yn ei gartref fyny yn y mynyddoedd, hefo’r unigrwydd a thawelwch yn ofni’r gwylwyr.

Yr actorion

Mae Mathias yn cael ei chwarae yn ardderchog gan Richard Harrington, sy’n rhoi popeth i mewn i’r ymchwiliadau, beth bynnag yw ei broblemau personol.

Gall Mathias fod yn perthyn i Sarah Lund o ‘The Killing’, gan eu bod yn rhannu gymaint o’r un nodweddion. Wrth sylwi ar lipstic coch mewn bath llawn gwaed yn gynnar yn y bennod gynta’, mae’r ditectif yn dweud “Noson wyllt arall yn Aber”.

Plisman sydd wedi gweld popeth mae’r byd yn gallu ei daflu ato, ac yn ceisio brwydro drwyddo ydy Mathias – ddim yn rhy wahanol i Alec Hardy yn Broadchurch, a chwaraewyd gan David Tennant.

Mared ddoeth

Mae Mathias yn cael ei gynorthwyo gan Mared Rhys, a chwaraewyd gan Mali Harries, sydd yn ddoethach na mae ei hoedran yn awgrymu. Mae hefyd yn nabod pawb a phopeth yn y dre ger y lli.

Yn helpu’r ddau ohonynt, mae Alex Harries a Hannah Daniel yn chwarae DC Lloyd Ellis a DS Siân Owens – yr olaf yn seren o’r dyfodol os bod ei pherfformiadau hyd yn hyn yn unrhyw awgrym. Ond, fel cyfeiriwyd yn gynharach, y dirwedd sydd yn dwyn eich enaid yn y rhaglen – yn arswydus a hardd ar yr un pryd.

Storis bywiog

Mae awduron y rhaglen wedi llwyddo i greu naratif sy’n troi a throelli, yn enwedig yn yr ail benodau wrth i Mathias a’i dîm ddod yn agosach i ddal y llofruddwyr.

Mae’r awduron yn ein cymryd i mewn i fywyd personol y cymeriadau – rydym yn gwybod fod Mathias wedi cael ei anfon nôl o Heddlu’r Met, tra bod gan Mared Rhys ei phroblemau teuluol o be ‘da ni di gweld hyn yn hyn.

Felly, wrth i ni gyrraedd hanner ffordd y gyfres, mae ‘Y Gwyll’ wedi llwyddo i gyrraedd y disgwyliadau yn fy marn i. Sioe dywyll, unigryw all bawb sydd yn gysylltiedig ag ef fod â phleser ynddi.

Marc: 9/10

Mae Daniel yn fyfyriwr ail flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor yn astudio’r celfyddydau.