Race Horses
Yn dilyn taith Ewropeaidd yn cefnogi Bat for Lashes, roedd y grŵp Cymreig, Race Horses yn ôl yn eu cartref ysbrydol yn Aberystwyth yn ddiweddar.

Gwenann Jones fu draw i gwrdd ag aelod o’r grŵp, Dylan Hughes, ar ran Golwg360 wrth iddynt baratoi ar gyfer gig arbennig yng Nghanolfan Arad Goch, gan holi am y daith ddiweddar, taith sydd ar y gweill gydag un o grwpiau mwyaf Prydain, a’u halbwm diweddaraf, Furniture.