Gwion Llewelyn a Mali Llywelyn o'r Race Horses yn brolio manylion y daith Kaizer Chiefs
Bydd y grŵp Cymreig, Race Horses, yn cefnogi un o grwpiau mwyaf y sin Brydeinig ar daith ym mis Chwefror 2013.

Mae’r pumawd, a ffurfiwyd yn wreiddiol yn Aberystwyth wedi cael cadarnhad y byddan nhw’n cefnogi’r Kaizer Chiefs wrth iddyn nhw deithio i 7 o leoliadau yn Lloegr a’r Alban.

Ond, cyn hynny maen nhw nôl yn gigio yng Nghymru’r wythnos hon yn ffres o daith Ewropeaidd gyda Bat for Lashes.

“Ni’n gyffrous iawn i chwarae mewn sioeau mor fawr” meddai Dylan Hughes o’r grŵp wrth drafod y daith Kaizer Chiefs gyda Golwg360.

“Dwi heb fod yn un o’r canolfannau o’r blaen, ond mae’r Apollo ym Manceinion a Barrowlands yng Nglasgow yn eithaf chwedlonol felly yndw, edrych mhlân.”

“Nath y daith ddigwydd yr un ffordd a’r daith Bat for Lashes, glywodd y band yr albwm, ei fwynhau e’, a gofyn ni gefnogi nhw.”

Profiadau

Mae’n un profiad cofiadwy ar ôl y llall i’r Race Horses, wrth iddyn nhw gloi eu taith Ewropeaidd nos Iau ddiwethaf.

“Ma’r daith wedi bod yn wych, roedd Paris, Amsterdam a Milan yn uchafbwyntiau” meddai Dylan Hughes wrth drafod y daith ddiweddaraf gyda Golwg360.

“Ma’r canolfannau wedi bod yn llawer mwy na ni arfer chware ym Mhrydain felly ma hynny wedi bod yn grêt fyd.”

Dechreuodd y daith Yr Almaen ar 15 Tachwedd cyn mynd ymlaen i’r Swistir, Yr Eidal, Sbaen, Yr Iseldiroedd a Ffrainc. Yn ôl Dylan mae’r grŵp yn edrych ymlaen at deithio a chware gwyliau yn Ewrop y flwyddyn nesa.

Ond, cyn hynny a’r daith Kaizer Chiefs, bydd rhaid i’r grŵp fodloni cynulleidfa fwy cyfarwydd wrth iddyn nhw berfformio tri gig nôl yng Nghymru dros y bythefnos nesaf.

Byddan nhw’n dechrau gyda gig ‘cartref’ yn Aberystwyth nos Iau yma, cyn ymweld â Chaerdydd a Chaernarfon yr wythnos ganlynol.

Manylion gigs Cymreig Race Horses:

6 Rhagfyr – Arad Goch Aberystwyth

12 Rhagfyr – The Gate Caerdydd efo GULP

13 Rhagfyr – Clwb Canol Dre Caernarfon