Ar ôl byrhau eu henw dros yr haf, mae’r grŵp Hud rŵan wedi rhyddhau eu record gyntaf dan yr enw newydd.

EP Stuntman yw’r cynnyrch cyntaf i’r grŵp o Wynedd ryddhau ers gollwng yr enw Creision Hud ym mis Awst eleni.

Mae’n dod deg mis ar ôl i’r band gwblhau’r ymdrech uchelgeisiol i ryddhau un sengl bob mis yn 2011.

“Mae’r aros wedi bod yn hir, ond roedd hyn yn rhoi’r cyfle i ni weithio ar ganeuon newydd, a chanolbwyntio ar greu ein cyfanwaith cyntaf” meddai’r prif ganwr, Rhydian Lewis wrth Golwg360.

Cafodd yr EP ei ryddhau’n swyddogol yng Ngŵyl Sŵn yng Nghaerdydd dros y penwythnos wrth i Hud berfformio mewn gig yn Gwdihŵ nos Sadwrn.

Recordiwyd y caneuon yn stiwdio Ferlas gyda’r cynhyrchydd Rich Roberts, ac yn ôl Rhydian Lewis mae’r traciau’n amrywio tipyn o ran arddull.

“Mae’r EP yn cynnwys chwech o ganeuon hollol newydd, sy’n amrywio yn eu harddulliau, o ysgafnder a rhythmau dawnsio ‘San Antonio’ i roc ychydig trymach ‘Tawela’r Cyfan’ a ‘Podium.’”

Can copi caled

Siôn Llwyd, gitarydd bâs y band oedd yn gyfrifol am ddylunio clawr y CD, ac mae wedi ei seilio ar hen bosteri ffilmiau a sioeau stynt o’r 70au.

Maent yn rhyddhau’r record yn annibynnol, a bydd ar gael yn electronig ar itunes, gyda chopïau caled i’w prynu ar Sadwrn.com neu yn gigs y grŵp, ond dim ond 100 o gopïau caled sydd ar gael.

“Dydi’r CD fel cyfrwng ddim yn gwerthu cystal yng Nghymru ag yn Lloegr neu America” meddai’r canwr.

“’Da ni’n gwybod mai mewn gigs neu ar wefannau mae’r CD am werthu, ac oherwydd hynny, dim ond 100 copi caled o’r CD ’da ni wedi eu creu.”

“Yn amlwg, mae’n rhatach i ni fel band i werthu yn unig ar y we, ac mae gwerthiant yn well trwy gyfrwng itunes neu Amazon, ond roedd creu copïau caled yn rhywbeth oeddem ni fel band eisiau ei wneud gan nad oeddem ni wedi gwneud hynny o’r blaen.”

Hud ar daith 50

Bydd cyfle i fachu copi o’r CD, ac i weld Hud yn perfformio’r caneuon newydd ledled Cymru wrth iddyn nhw gymryd rhan yn ‘nhaith 50’ Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fis nesaf.

Mae Hud yn chwarae ar bob un o ddyddiadau’r daith sy’n ymweld â Dinbych, Betws y Coed, Bethesda, Aberystwyth, Caerfyrddin a Chaerdydd.

“’’Da ni’n edrych ’mlaen yn arw at y daith. Y tro dwytha i ni fod ar daith oedd haf diwethaf ar daith Y Selar, ac felly dydan ni ddim wedi cael y cyfle i deithio ers misoedd.”

“Mae’r amseru wedi bod yn berffaith o ran hyrwyddo’r CD, mi oeddem ni wedi rhyw hanner sôn efallai trefnu taith ein hunain i hyrwyddo’r EP, ond gan fod Cymdeithas yr Iaith yn fodlon gwneud hynny drosom ni!”

Mae’r grŵp hefyd yn cynllunio dychwelyd i Stiwdio Ferlas i recordio dwy gân newydd yn fuan.