Enillydd a pherfformiwr buddugol y llynedd - Alun Tan Lan a Tomos Wyn (S4C)
Am y tro cynta’ erioed, fe fydd cân bîtbocsio yn cystadlu am deitl Cân i Gymru.

Mae’n un o’r wyth cân sydd wedi’u dewis o blith y nifer fwya’ erioed o gynigion ar gyfer y teitl a’r wobr o £7,500.

  • ‘Chwarae Ceg’ gan Ed Holden, gynt o’r Genod Droog, yw’r gân sy’n torri tir newydd ac fe fydd nifer o enwau adnabyddus eraill yn y ras.
  • Fe fydd y canwr a’r gitarydd Gai Toms er enghraifft yn gobeithio gwella ar ail safle llynedd gyda’i gân ‘Clywch’.
    Mae Steve Balsamo’n fwy adnabyddus am fod yn ‘Jesus Christ Superstar’ yn Llundain ond mae wedi ysgrifennu ‘Rhywun yn Rhywle’ ar y cyd â chanwr Brigyn, Ynyr Gruffydd Roberts. Fe ddaeth yn ail yn 1994.
  • Stori am enedigaeth plentyn yw ‘Fy Mhlentyn i’ ar y cyd gan Ann Llwyd a Steve Pablo. Plentyn Ann Llwyd, Alys Williams, fydd yn perfformio’r gân yn ystod y rownd derfynol fyw.
    Fe gafodd drymiwr Yr Ods, Osian Rhys Roberts, ei ysbrydoli gan Osian Howells – sydd hefyd yn y band – a oedd wedi cystadlu’r llynedd. ‘Cofia am y Cariad’ yw ei ymgais, yn cael ei pherfformio gan Ffion Emyr.
    Mae Dafydd Saer wedi cyrraedd rownd derfynol Cân i Gymru bum gwaith ac mae’n ôl eleni gyda ‘Cylch o Gariad’ a gafodd ei sgrifennu wrth iddo deithio Ewrop.
  • Dau o Fôn, Meilyr Wyn a Derwyn Jones, yw cyd-gyfansoddwyr ‘Nerth dy Draed’ a bydd Ifan Emyr yn gobeithio efelychu llwyddiant ei fam gyda’r gân ‘Symud Ymlaen’. Enillodd Mari Emlyn deitl Cân i Gymru yn 1986.

Gwobr o £7,500
Bydd yr wyth cân yn brwydro am y brif wobr ariannol o £7,500, yn ogystal â chael cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon.

Mae rheithgor Can i Gymru yn cynnwys Meilir Gwynedd o’r Sibrydion; Cleif Harpwood o fand mawr y 70au Edward H. Dafis, y gantores werin, Siân James a Catrin Southall, prif leisydd y band Sal.
Elin Fflur, cyn-enillydd y gystadleuaeth yn 2002, yw cyflwynydd newydd y rownd derfynol fyw Nos Sul, 6 Mawrth o Bafiliwn Pontrhydfendigaid.