Gŵyl y Dyn Gwyrdd 2010
Mae trefnwyr Gŵyl y Dyn Gwyrdd wedi cyhoeddi heddiw bod modd i’r cyhoedd brynu tocynnau i’r ŵyl eleni o ddydd Mawrth nesaf ymlaen.

Sefydlwyd yr ŵyl gerddorol amgen, sydd wedi ei lleoli ym Mannau Brycheiniog nôl yn 2003. Bryd hynny, digwyddiad cymharol fach ydoedd gyda chynulleidfa o ddim ond 300.

Ers hynny mae tedi tyfu’n flynyddol ar gyflymder aruthrol ac erbyn hyn mae wedi’i sefydlu fel un o wyliau mwyaf poblogaidd Cymru.

Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal ar drydydd penwythnos mis Awst, sef penwythnos 19, 20 a 21 o Awst eleni.

Er nad yw’r trefnwyr wedi cyhoeddi pwy sy’n chwarae yn yr ŵyl eto, mae cryn gyffro ynglŷn â’r digwyddiad ac mae disgwyl i docynnau werthu’n gyflym.

Bydd manylion llawn ynglŷn â sut i brynu tocynnau yn ymddangos ar wefan Gŵyl y Dyn Gwyrdd.