Y ffilm Seperado
Mae trefnwyr Pesda Roc wedi cyhoeddi manylion digwyddiad Pesda Roc Bach fydd yn cael ei gynnal dros benwythnos y Pasg eleni.

Ymysg y rhai sy’n perfformio yn ystod yr ŵyl gerddorol mae Cowbois Rhos Botwnnog, 9Bach ac Elin Fflur.

Bydd digwyddiadau Pesda Roc Bach yn cael eu cynnal dros bedair noson yn Neuadd Ogwen, Bethesda gan ddechrau gyda dangosiad o’r ffilm Seperado.

Mae’r ffilm yn dilyn anturiaethau Gruff Rhys wrth iddo chwilio am ewythr colledig ym Mhatagonia, sef y cerddor Rene Griffiths. Bydd Rene ei hun yn perfformio set fel rhan o’r noson ym Methesda hefyd.

Cerddoriaeth yw’r canolbwynt

Un o drefnwyr yr ŵyl ydy Dilwyn Llwyd, sydd wedi bod yn cynnal gigs rheolaidd ym Methesda dros y misoedd diwethaf.

“Mae’r ŵyl hon yn estyniad naturiol o’r nosweithiau bach clyd sydd wedi bod yn digwydd yn fisol yn Pesda” meddai Dilwyn Llwyd.


9Bach
“Cerddoriaeth yw canolbwynt y nosweithiau” ychwanegodd.

Bydd y grŵp gwerin modern, 9 Bach yn perfformio ar y nos Sadwrn gan rannu llwyfan â Heather Jones.

“Mae cael Heather Jones yn canu gyda ni yn anrhydedd mawr” meddai Martin Hoyland o 9Bach.

“Mae’n adeg gyffrous iawn i ni gan y byddwn yn perfformio rhai caneuon newydd o’n ail albwm am y tro cyntaf.”

Bydd mr huw hefyd yn cefnogi Cowbois Rhos Botwnnog ar nos Wener 6 Ebrill – cyfle delfrydol iddo hyrwyddo ei EP newydd, Yr Afiechydon.


Cowbois Rhos Botwnnog
Mae Cowbois Rhos Botwnnog yn mynd i gael noson brysur gan eu bod nhw hefyd yn perfformio fel band cefndirol i Georgia Ruth yn yr ŵyl. Bydd Georgia Ruth hefyd yn cymryd mantais o’r cyfle i hyrwyddo eu EP newydd, In Luna.

Manylion y digwyddiad (popeth yn Neuadd Ogwen):

Dydd Mercher 4 Ebrill 9.30am

Cwrs Technoleg Cerdd

8 diwrnod llawn dan arweiniad Aled Huws (Cowbois Rhos)

Nos Iau, 5 Ebrill, 7pm

Dangos Ffilm Seperado!

Perfformiad arbennig gan seren y ffilm Rene Griffiths

Nos Wener, 6 Ebrill, 7pm

Cowbois Rhos Botwnnog, Georgia Ruth, mr huw, DJ

Nos Sadwrn, 7 Ebrill, 7pm

9Bach, Heather Jones, DJ

Nos Sul, 8 Ebrill, 7pm

Elin Fflur, Casi Wyn, DJ

Mae’r tocynnau ar gyfer yr holl nosweithiau ar gael o Siop Kath, Pesda ac o www.sadwrn.com.