Clawr 'Peil o Esgyrn'
Mae sengl gyntaf y grŵp o Gaerdydd, Breichiau Hir wedi cael ei rhyddhau heddiw.

Mae modd lawr lwytho ‘Peil o Esgyrn’ o heddiw ymlaen o dudalen Bandcamp y grŵp.

Er mai dyma’r deunydd cyntaf i Breichiau Hir ei ryddhau, mae’r grŵp eisoes wedi recordio sesiwn i C2 Radio Cymru ers peth amser.

Ond yn ôl un o’r aelodau, Steffan Dafydd, bydd pobol yn sylwi ar newid yn sŵn y grŵp rhwng y sesiwn honno a’r sengl newydd.

“Ni di newid lot ers ein sesiwn C2 ychydig dros flwyddyn yn ôl! Ni’n lot mwy trwm nawr” meddai Steffan wrth Golwg360.

Mae’r grŵp ifanc wedi bod yn gobeithio rhyddhau deunydd ers peth amser, ac yn falch iawn eu bod wedi llwyddo i wneud hynny o’r diwedd.

“Hwn yw’r release cyntaf, ond gobeithio bydd hyn yn dechre’ habit i ni. Ni di moyn neud hyn ers sbel” ychwanegodd Steffan.

Dyma’r fideo mae Breichiau wedi’i gynhyrchu i hyrwyddo’r sengl newydd.