Breichiau Hir yn perfformio'n fyw
Bydd y grŵp ifanc o Gaerdydd, Breichiau Hir, yn rhyddhau eu sengl gyntaf wythnos nesaf.

Enw’r sengl ydy ‘Peil o Esgyrn’ ac fe fydd ar gael i’w lawr lwytho’n unig ar 5 Mawrth.

Yn ôl y grŵp, bydd y gân hefyd yn cael ei rhyddhau ar yr EP maen nhw’n gweithio arno ar hyn o bryd, ac a fydd yn cael ei ryddhau’n fuan.

“I ni, ma’r sengl yn swnio fel be ma Breichiau Hir fod i swnio” meddai Steffan Dafydd o’r grŵp wrth Golwg360.

“Ond i bobl sydd heb ddod i weld ni’n fyw fydd e’n bach o sioc!”

Bydd ‘Peil o Esgyrn’ ar gael i’w lawr lwytho ar 5 Mawrth.

Un o ganeuon blaenorol Breichaiu Hir – ‘Geni Eto’.