Clawr Albwm Y Niwl
Mae’r Niwl yn cael sylw ledled Prydain.

Mae’r band wedi cael chwarae’n fyw ar BBC 6 Music echddoe, wedi eu henwi’n ‘CD yr wythnos’ y Sunday Times yr wythnos diwethaf, ac wedi cael adolygiad da yng nghylchgrawn Mojo ym mis Chwefror.

Yn ôl Gruff ab Arwel o’r band mae’r holl sylw yn “syrpreis neis”.

“Mae’n braf cael gwneud beth yden ni’n hoffi ei wneud,” meddai gitarydd band Y Niwl wrth Golwg360.

“Nid y nod wrth ddechra’r band oedd cael sylw fel hyn. Ond mae’n syrpreis neis ei fod o wedi digwydd.”

Dywedodd y cerddor sydd yn ei flwyddyn olaf yn astudio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor ei fod yn gobeithio parhau i chwarae gyda’r Niwl ar ôl graddio.

Tri band Cymraeg

Mae Xfm wedi agor eu pleidlais ar gyfer y ‘Gwobrau Cerddoriaeth Newydd’ ac mae yna dri band o Gymru ar y rhestr sef Y Niwl, Race Horses, ac We Are Animal.

Mae’n bosib pleidleisio fan hyn.