Ail ran dewis Owain Schiavone o’r ddeg cân orau i’w rhyddhau gan artistiaid Cymraeg cyfoes yn 2011. (Darllenwch Ran 1 fan hyn)

5. Boi Bach Skint – Yr Angen


Boi Bach Skint gan Yr Angen

Mae rhywun yn cael ei dynnu at ‘monster hit’ Yr Angen, ‘Nawr mae drosto’ a greodd y fath argraff ar feirniaid Brwydr y Bandiau C2 yn 2010. Mae honno’n gân a hanner rhaid cyfaddef, ond ar ôl gwrando sawl gwaith ar yr albwm cyntaf bach da iawn yma gan Yr Angen, ‘Boi Bach Skint’ ydy’r un sy’n sefyll allan i mi.

4. Bedd – Creision Hud


Bedd gan Creision Hud

Am flwyddyn wych i Creision Hud! Ar ddechrau’r flwyddyn fe gawson nhw’r syniad gwreiddiol o ryddhau sengl newydd bob mis yn ystod 2011, ac ers hynny maen nhw wedi mynd o nerth i nerth. Yn ogystal â’r 12 sengl maen nhw wedi bod yn weithgar iawn yn gwneud Taith Slot Selar, rhyddhau fideos i’w caneuon a chael lot o hwyl wrth ei golwg hi! Mae’n anodd dewis un o’u senglau gan fod nifer yn sefyll allan. Mae ‘Photo’ yn gân dda iawn tra bod ‘Indigo’ yn gân yr haf, ond i mi un o’r senglau cyntaf, ‘Bedd’ ydy’r orau. Mae’r sŵn bach yn wahanol ac yn arafach na’r gweddill, tra bod rhyw deimlad tywyll iawn iddi hefyd.

3. Cariad – Dau Cefn


Cariad gan Dau Cefn

Fel rheol, mae Dau Cefn yn cael eu cysylltu â cherddoriaeth electronica a hip-hop ddigon arbrofol – gweler y traciau ‘Bish Bash Bosh’ a ‘Sbaen’ a gafodd eu rhyddhau ar Y Record Goch ym mis Gorffennaf. Ac yna wele’r faled hyfryd ‘Cariad’, sef cân olaf y casgliad aml-gyfrannog ‘12’ a gafodd ei ryddhau ym mis Rhagfyr. Ar y gwrandawiad cyntaf, mae’n swnio ychydig yn sentimental a chawslyd, ond gwrandwch eto…ac eto os oes amser. Syml ond hynod effeithiol a phrydferth.

2) Cyfoeth Gwlyb – Sen Segur


Cyfoeth Gwlyb gan sensegur

Efallai’r grŵp newydd sydd wedi creu’r mwyaf o argraff yn 2011. Daeth EP cyntaf Sen Segur i’r golwg ym mis Ebrill ac fe hoeliodd traciau gwreiddiol fel ‘Taith Duncan Goodhew’ ac ‘Oswald’ y sylw’n syth. Yn ôl y grŵp yn rhifyn Rhagfyr o’r Selar, mae ‘Cyfoeth Gwlyb’ yn gân am griw o fynaich yn ceisio dianc o dywydd drwg – seicadelia Cwm Penmachno ar ei orau.

1) Brig y Nos – Sibrydion

Does dim amheuaeth mae pedwerydd albwm Sibrydion, Uwchben y Drefn, ydy un o albyms y flwyddyn. Mae gan y brodyr Gwynedd ddawn arbennig i ysgrifennu hit bron iawn fel y maen nhw’n mynnu, ac mae digon o’r rhain ar yr albwm diweddaraf. Ond tra bod ‘Cadw’r Blaidd o’r Drws’ wedi cydio yng nghlustiau DJ’s radio Cymru’n syth, o’r cychwyn cyntaf y gân olaf ar yr albwm, ‘Brig y nos’ ydy’r un sydd wedi sefyll allan i’m clustiau i.

“Pan ‘o ni’n canu ‘Brig y Nos’ ‘o ni’n meddwl ella ‘na honna ‘sa cân ola’r Sibrydion” datgelodd Meilyr Gwynedd yn rhifyn Awst o’r Selar. Mae hynny i’w deimlo o glywed y gân wrth iddo roi pob gronyn o egni mewn i’r vocals. Yn wahanol i rai o ganeuon mwy radio gyfeillgar y grŵp dros y blynyddoedd, dydw i byth yn blino ar glywed hon … a’r gair cyntaf sy’n dod i’r meddwl bob tro ydy ‘tiwn’!

Croeso i chi anghytuno a’r dewis wrth gwrs…