Erin Mai, merch 13 oed o Lanrwst, fydd yn cynrychioli Cymru yn y Junior Eurovision yng ngwlad Pŵyl eleni.

Cafodd ei dewis trwy bleidlais gyhoeddus neithiwr (nos Fawrth, Medi 24) ar ddiwedd y gyfres Chwilio am Seren ar S4C, a gafodd ei darlledu’n fyw o Venue Cymru yn Llandudno.

Cafodd yr ugain o ymgeiswyr llwyddiannus eu hyfforddi a’u mentora gan Connie Fisher, Lloyd Macey a Tara Bethan, gyda’r chwech ymgeisydd gorau’n symud yn eu blaenau i’r rownd derfynol.

Bydd y gystadleuaeth fawr yn cael ei chynnal yn Gliwice ym mis Tachwedd.

“Wnes i erioed feddwl y byswn i’n ennill ‘Chwilio am Seren Junior Eurovision’!” meddai Erin Mai. “Mae pawb sydd wedi cystadlu ar y llwyfan heno mor ardderchog.

“Diolch yn fawr iawn i bawb am yr holl gefnogaeth, i Tara ac i bawb o Lanrwst! Dw i’n methu aros i gael cynrychioli Cymru yng ngwlad Pŵyl.”

Y gân fuddugol

Bydd Erin Mai yn canu’r gân ‘Calon yn Curo’, a gafodd ei chyfansoddi ar gyfer y gystadleuaeth gan Sylvia Strand a John Gregory o Gwm Rhondda Fawr, a’r geiriau wedi’u hysgrifennu gan y rapiwr Ed Holden.

Bydd Erin a’i chân yn mynd ben-ben â 18 o wledydd eraill ar ddydd Sul, Tachwedd 24 am 3 o’r gloch.