Mae tri band o Gymru yn gobeithio “adeiladu ar lwyddiant” teithiau blaenorol, wrth gyhoeddi eu bod am fod yn cynnal nosweithiau yn Lloegr a’r Alban cyn diwedd y flwyddyn.

Mae teithiau Adwaith, Mellt a Papur Wal i Lundain, Glasgow a Manceinion yn rhan o gynllun gan gwmni hyrwyddo PYST, sydd eisiau cyflwyno cerddoriaeth Gymraeg i gynulleidfaoedd y tu hwnt i Gymru.

“Mae yno gymaint o gerddoriaeth wych yn cael ei chreu ar y funud, ac rydan ni eisiau pwsio’r gerddoriaeth tu allan i Gymru efo’r teithiau yma,” meddai PYST. “Nid dim ond i bobol Cymraeg mae cerddoriaeth iaith Gymraeg.”

Mae’r tri band dan sylw eisoes wedi perfformio yn Llundain, Leeds a Rhydychen.

“Rydan ni’n nabod hogiau Mellt a Papur Wal oherwydd ein bod ni gyd yn based yng Nghaerdydd,” meddai Heledd Owen, drymiwr Adwaith. “Felly mi fydd o’n cŵl bod ar daith efo’n gilydd.

“Three pieces ydan ni i gyd hefyd, felly mae naw yn rhif bach da i fynd ar daith,”

Croeso yn Leeds 

“Gafon ni ymateb ofnadwy o dda pan ddaru ni chwarae gig yn Leeds,” meddai Gwion Ifor, gitarydd Papur Wal. “Rydan ni isio adeiladu ar hynny rŵan, a chario ymlaen i wneud sŵn da.”

Dim yn poeni am y dorf

Tra bod Elis Walker sy’n chwarae gitâr fas ac yn brif leisydd Mellt “ddim wir yn poeni am y dorf”, mae’n poeni mwy am “roi set dda ymlaen a bod pwy bynnag sydd yna yn mwynhau”.

Y daith 

Medi 4 – The Poetry Club, Glasgow

Medi 5 – YES, Manceinion

Medi 6 – The Victoria Dalston, Llundain