Mae ffans Sobin a’r Smaeliaid yn cael eu hannog i nodi eu hoff ganeuon gan y band, wedi iddo gael ei hepgor unwaith yn rhagor o’r siart #40Mawr ar Radio Cymru.

Cafodd y rhestr o hoff ganeuon Cymraeg y genedl ei cyhoeddi ar BBC Radio Cymru 2 ddechrau’r wythnos (dydd Llun, Awst 26), gyda ‘Seboni Fi’ gan Yws Gwynedd yn cyrraedd y brig, a ‘Rhedeg i Baris’ gan Anrhefn/Candelas a ‘Cwîn’ gan Gwilym yn dynn wrth ei sodlau.

Ond er i rai o ganeuon enwocaf Bryn Fôn ymddangos ar y rhestr eleni – fel Ceidwad y Goleudy (13), Abacus (15) a Rebal Wicend (17) – does yna’r un gân o’i gyfnod yn aelod o Sobin a’r Smaeliaid erioed wedi cyrraedd y siart.

Fe recordiodd y band roc a phop Cymraeg 38 o ganeuon rhwng 1988 a 1992, gan gynnwys clasuron fel ‘Gwlad y Rasda Gwyn’ a ‘Mardi Gras ym Mangor Ucha’ – sy’n dal i fod yn boblogaidd.

Ac er mwyn llenwi’r bwlch eleni, mae’r grŵp ‘Sobin a’r Smaeliaid’ ar wefan Facebook yn galw ar gefnogwyr i nodi eu hoff ganeuon, gydag addewid i’w chwarae ar-lein yn fuan…

Dim un cân Sobin yn y 40 Mawr Radio Cymru eleni! Chwara teg i’r criw newydd de. Pa gân fysa chi wedi licio’i chlywed ar y siart? Rhowch wybod, a nawn ni drio chwara nhw yn fuan. Diolch!

Posted by Sobin A'r Smaeliaid on Tuesday, 27 August 2019