Mae ‘Full Moon Vulture’, cân newydd y ddeuawd roc Alffa, wedi ei chyhoeddi heddiw (dydd Gwener, Gorffennaf 27) ar label Cosh ac eisoes wedi ei ffrydio bron i 3,000 o weithiau ar Spotify.

Daeth Alffa yn amlwg pan gafodd eu cân ‘Gwenwyn’ ei ffrydio tros dair miliwn o weithiau, ac fe gafodd y sengl ddilynodd honno, ‘Pla’ , ei ffrydio filiwn o weithiau.

Fe fydd Alffa yn canu ‘Full Moon Vulture’ ar yr un llwyfan â James Dean Bradfield o’r Manic Street Preachers yn ystod gig Cwpan y Byd y Digartref yng Nghaerdydd wythnos nesaf.

Mae “stori ddoniol” tu ôl i’r gân, meddai canwr a gitarydd Alffa, Dion Jones, sydd wedi bod yn cynnal gigs ledled gwledydd Prydain tros yr haf gyda’i ffrind Siôn Land – y drymiwr.

“Mae hi yn gan sy’n sôn am y bobol sy’n barod i feirniadu pobol mor sydyn – a rydan ni jest yn expressio hynna yn y gân,” meddai Dion Jones.

“Yn aml mae pobol yn beirniadu’r penderfyniadau ti’n wneud, ond os dw i’n hapus… be ydi’r ots be dw i’n wneud? Fi ydi’r ‘Full Moon Vulture’ mewn ffordd achos bod pobol yn dweud fy mod i’n farus.”

 “Llwyth o riffs”

 Mae Alffa wrthi’n recordio eu halbym gyntaf yn stiwdio Ferlas ym Mhenrhyndeudraeth ac yn gobeithio ei chyhoeddi hi o fewn tri mis.

“Mae yna lwyth o riffs trwm ac mae Full Moon Vulture yn dangos balans da o’r holl albwm,” meddai Dion Jones.

“Fydd yna 11 trac ar yr albwm i gyd, sy’n cynnwys 10 trac ‘classic Alffa’ mewn ffordd. Ond hefyd mae yna un trac lle dw i’n chwarae piano.

“Mae o reit debyg i rywbeth tywyll Queens of the Stone Age, ond ddim cweit yn Elton John!”

Mae Alffa wedi cydweithio gyda gwestai arbennig ar gyfer yr albwm hefyd, ond tydi Dion Jones ddim yn barod i ddatgelu pwy eto.

“Dewis naturiol”

 Y dylunydd graffeg a chanwr y band Breichiau Hir sydd wedi creu’r gwaith celf ar gyfer clawr y sengl newydd.

“Mae’ n naturiol i ni ddewis Steffan Dafydd o Breichiau Hir,” meddai Dion Jones.

“Mae o’n deall ni ac yn gwybod be’r ydan ni amdan. Tydi sŵn Breichiau Hir ddim yn rhy annhebyg i ni weithiau.”

Mae’r artist Lleucu Non wedi gwneud fideo i ‘Full Moon Vulture’ hefyd, wedi iddi ddal sylw Dion Jones a Siôn Land ar ôl gwneud fideo ar gyfer Casi and the Blind Harpist.

Fe fydd cyfle i weld Alffa yn Neuadd Ogwen, Bethesda heno (nos Wener, Gorffennaf 26) neu yng Nghaerdydd yn cefnogi James Dean Bradfield ddydd Mawrth (Gorffennaf 30) yng Nghwpan y Byd Digartref, ym Mharc Bute Caerdydd.

“Rydan ni’n edrych ymlaen at chwarae efo fo,” meddai Dion Jones.

“Dw i erioed wedi bod yn ffan enfawr o Manics a heb wrando gormod… ond dw i’n gwybod faint o big deal ydyn nhw!”

Ac mae Cymro enwog arall yn ffan o’r band…