Cafodd trefnwyr gŵyl Gymraeg ym Mlaenau Ffestiniog eu syfrdanu cymaint gan lwyddiant y digwyddiad y llynedd, fel eu bod nhw wedi ychwanegu noson arall at yr arlwy eleni.

Bydd Gŵyl Car Gwyllt yn cael ei chynnal dros y penwythnos ar faes parcio Clwb Rygbi Bro Ffestiniog, gan gychwyn heno (nos Wener, Gorffennaf 5).

Mae enwau mawr ymhlith perfformwyr y tridiau nesaf, gan gynnwys Bryn Fôn a’r Band, Geraint Løvegreen a’r Enw Da ac Anweledig.

Bydd y wledd gerddorol ar un llwyfan ar nos Wener ac yna ar ddau lwyfan ddydd Sadwrn. Bydd yr ŵyl yn dod i ben ddydd Sul gyda sesiwn gerddorol gan Jamie Bevan yn nhafarn Y Tap.

Mynd o nerth i nerth

Yn ôl Dewi Prysor, un o’r trefnwyr, mae tocynnau’r ŵyl wedi gwerthu “fel slecs” eleni, sy’n brawf bod llwyddiant y llynedd “wedi cario ymlaen”, meddai.

Mae’n ychwanegu bod angen digwyddiad fel Gŵyl Car Gwyllt ar dref Blaenau Ffestiniog, lle mae “petha’n cau a phetha’n symud oddi yma”.

“Mae gen ti betha da fatha’r Dref Werdd yn gweithio’n gymunedol, a chwmni Bro Ffestiniog, ond mae’r ŵyl yma jyst yn dod â phawb at ei gilydd i fwynhau ac yn rhoi pawb mewn ffrâm bositif o feddwl,” meddai Dewi Prysor, sydd wedi bod ynghlwm â’r ŵyl ers ei chychwyn yn 1997.

“Mae’n golygu popeth iddyn nhw [trigolion Blaenau Ffestiniog], ac maen nhw’n edrych ymlaen bob blwyddyn.

“Mae fatha Dolig ynghanol ha’.”

Nos Wener

Maes parcio Clwb Rygbi Bro Ffestiniog

7.00 – Gwibdaith Hen Frân

8.10 – Geraint Løvgreen a’r Enw Da

9.20 – Gai Toms a’r Banditos

10.30 – Bryn Fôn a’r Band

Dydd Sadwrn

Llwyfan Maes Parcio

1.00 – Mared Jeffreys

1.15 – Jambyls

2.45 – Pasta Hull

4.15 – Anweledig

5.45 – Tri Hŵr Doeth

7.15 – Bob Delyn a’r Ebillion

9.00 – Mellt

10.30 – One Style MDV

Llwyfan y Clwb

2.00 – Twmffat

3.30 – Faux Felix

5.00 – Estella

6.30 – Phil Gas a’r Band

8.15 – Gwilym Bowen Rhys

9.45 – Radio Rhydd

Dydd Sul

Jamie Bevan yn nhafarn Y Tap