Mae’r dechnoleg fideo ddiweddara’ yn rhoi cyfle i bobol Caerdydd gael blas ar gigs bandiau Cymraeg heb orfod codi o’u cadair.

Fe fydd ‘fideo ymdrochol 360’ dan y teitl Lleisiau o Gymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru (Mai 2-4) yn cynnwys rhai o artistiaid amlyca’r sîn.

“O fynyddoedd Eryri i glybiau canol dinas Caerdydd, mae’r ffilm ymdrochol yma’n dangos sin gerddoriaeth egnïol Cymru,” meddai’r blyrb.

Yn ystod mis Hydref y llynedd, cafodd chwe thrac gan fandiau Adwaith, Afrocluster, The Gentle Good, Marged, Astroid Boys, Brythoniaid eu recordio a’u cymysgu mewn sain 360.

Recordiwyd y traciau mewn gigs yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd ac yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd.

Trwy chwe lens hemisfferig bydd ffilm Lleisiau o Gymru yn eich tywys i brofi teimladau’r artistiaid, awyrgylch eu cerddoriaeth, mew’n ffurf newydd sbon.

Ond ‘ymdrochol.’… beth ar y ddaear?

Mae fideos ymdrochol 360 yn dechnoleg newydd sy’n cael eu defnyddio’n helaeth mewn arddangosfeydd ar draws y byd erbyn hyn.

Er mwyn creu fideo o’r fath, mae’r ffilm yn cael ei recordio o bob un ongl ar yr un pryd – yn 360 gradd – gan ddefnyddio nifer o gamerâu neu camera sydd yn gallu gweld y panorama cyflawn.

Felly, wrth roi’r sbectol ‘VR’ ymlaen i wylio’r fideo, fe fydd y  defnyddiwr yn teimlo ei fod yn sefyll yng nghanol yr olygfa ar y sîn – a pa bynnag ffordd mae’r defnyddiwr yn troi, bydd delweddau’r fideo ymdrochol 360 yno.

Voices of Wales | Lleisiau o Gymru

Free event from 2 – 4 May ?Step inside our projection dome and experience some incredible performances from Wales' hottest emerging musical talents Adwaith, Afro Cluster, Astroid Boys, Brythoniaid, The Gentle Good and #Marged ?? Find out more here: https://bit.ly/2VObVCSDigwyddiad rhad ac am ddim, 2 – 4 Mai ? Dewch i brofi gigs anhygoel gydag ein fideo ymdrochol 360º a dilynwch Adwaith, Afro Cluster, Astroid Boys, Brythoniaid, The Gentle Good a #Marged ar daith gerddorol drwy Gymru ?? Am ragor o wybodaeth: https://bit.ly/2VObVCS

Posted by Wales Millennium Centre on Friday, 26 April 2019