Mae Unwaith Eto, y band roc Cymraeg o Ddyffryn Teifi, wedi dychwelyd i’r stiwdio, a hynny fwy na deugain mlynedd ers iddyn fod yn diddanu cynulleidfaoedd mewn neuaddau pentref yn y gorllewin.

Fe gafodd y band ei sefydlu ar ddechrau’r 1970au gan bedwar ffrind o Lanbedr Pont Steffan.

Roedd y band yn cynnwys Gwilym Jones Lewis yn brif leisydd, Bernard Davies ar yr allweddellau, Alun Jones ar y drymiau, a Richard Marcs, cyn-enillydd cystadleuaeth Cân i Gymru, ar y gitâr fas.

Maen nhw wedi penderfynu recordio albwm o’u hen ganeuon, gan gynnwys rhai mwy diweddar, er mwyn cofio am ddau gerddor lleol a fu farw o glefyd y galon.

“Yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwetha’ ry’n ni wedi colli dau ffrind – dau gyd-gerddor – Sam Rees ac Eirion Williams – i glefyd y galon,” meddai Gwilym Jones Lewis, sydd bellach yn byw yn Aberystwyth.

“Ffordd o drio ymateb yn gadarnhaol i hynny oedd y penderfyniad i ddod ynghyd a chreu’r albwm hwn a thrwy hynny godi arian ar gyfer Sefydliad y Galon.

“Wrth i ni edrych yn ôl, gobeithio y bydd yr arian a godwn yn help i bobol eraill edrych ymlaen.”

‘Hen ffefrynnau’

Wrth ddychwelyd at y stiwdio, mae’r band wedi gwahodd cantores leol i ymuno â nhw ar gyfer y gwaith recordio, sef Lisa Regan.

Mae’r albwm ei hun, sydd wedi ei gynhyrchu gan Richard Marcs, yn cynnwys y gân a enillodd iddo gystadleuaeth Cân i Gymru yn 1991, sef Yr Un Hen Le.

Mae hefyd yn cynnwys yr hen ffefryn, Dilyn y Don, a gafodd ei recordio yn ddiweddarach gan y band enwog arall o Lanbedr Pont Steffan – Cwlwm.

“Pan o’n ni’n sgwennu a pherfformio rhai o’r caneuon yma gynta’ yn ôl yn yr 1970au roedd yna deimlad eitha’ mentrus iddyn nhw,” meddai Gwilym Jones Lewis.

“Roedd hi’n grêt gweld neuaddau cefen gwlad yn llawn o bobol ifanc yn neidio a thasgu wrth i ni whare’r caneuon cyflym neu’n dala’n gariadus wrth ei gilydd i gyfeiliant Dilyn y Don, a chaneuon diwedd-y-nos debyg.”