Enillodd y band Alffa o Lanrug wobr newydd yng Ngwobrau’r Selar neithiwr, wedi iddyn nhw gyrraedd miliwn ffrwd ar Spotify.

Mae’r wobr wedi’i noddi gan PYST.

Fe gyrhaeddodd y band y garreg filltir nodedig ym mis Rhagfyr ar gyfer eu sengl ‘Gwenwyn’ – y trac uniaith Gymraeg gyntaf i wneud hynny.

Mae’r gân wedi mynd y tu hwnt i 2,000,000 ffrwd erbyn hyn.

‘Torri tir newydd’

“Roedd cyrraedd miliwn ffrwd yn dipyn o beth, ac yn torri tir newydd i gerddoriaeth Gymraeg,” meddai Owain Schiavone, uwch olygydd Y Selar.

“Roedden ni’n awyddus i ddathlu llwyddiant Alffa fel rhan o Wobrau’r Selar eleni, a daeth y syniad o greu gwobr, tebyg i’r platinum award fyddech chi’n ei gael am werth 300,000 copi o albwm ym Mhrydain.”

“Gyda ffrydio digidol yn rheoli’r farchnad gerddoriaeth erbyn hyn, mae’n debyg y bydd gwobrau platinum yn dod yn bethau mwy prin, ond yn ein tyb ni, mae cyrraedd miliwn ffrwd yn rywbeth yr un mor arwyddocaol i gân Gymraeg.

“Y bwriad ydy cyflwyno’r wobr yma i bob cân Gymraeg sy’n cyrraedd y miliwn o hyn ymlaen.”

Cyflwyno’r wobr

Mae’r band wedi cael ail wobr am gyrraedd 2,000,000 ffrwd.

Roedd cyflwyno’r wobr newydd yn amserol ddydd Gwener wrth i Alffa ryddhau eu dilyniant i ‘Gwenwyn’ y diwrnod hwnnw – mae ‘Pla’ allan ar Recordiau Côsh, ac ar gael o’r llwyfannau digidol arferol ers dydd Gwener (Chwefror 15).

Mae’n fis mawr i Alffa o ran gigio hefyd – yn ogystal ag ymddangos ar lwyfan Gwobrau’r Selar yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth nos Wener, byddan nhw’n perfformio yn The Lexington yn Llundain ar Chwefror 27.