Mi fydd un o ddigwyddiadau mwyaf y calendr cerddoriaeth Cymraeg yn cael ei gynnal yn Aberystwyth y penwythnos hwn.

Bydd gwobrau’r Selar 2019 yn rhedeg o nos Wener yma (Chwefror 15) tan nos Sadwrn (Chwefror 16) yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.

Hwn yw’r tro cyntaf erioed iddo gael ei rannu yn ddwy noson.

Nos Wener bydd cyfle i weld enillwyr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol – Mellt, yn ogystal â pherfformiadau gan Y Cledrau, HMS Morris, Alffa a Lewys.

Yn cloi ar nos Sadwrn bydd Gwilym, yn dilyn perfformiadau gan Mei Gwynedd, Los Blancos, Wigwam, Trwbz a Breichiau Hir.

Ar ddiwedd y noson bydd gwobr yr enillydd yn cael ei chyflwyno gan Gwenno Nefyn Huws, ar ran Pwyllgor Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth.

Bydd gwobr unigryw yn cael ei gyflwyno flwyddyn yma, sef gwobr Cyfraniad Arbennig – a honno i Mark Roberts a Paul Jones o Y Cyrff ac yn ddiweddarach Catatonia.

Fel rhan o’r dathliad, bydd y ddau yn perfformio un o’u hen ganeuon ar y nos Wener.

Hon yw’r bumed flwyddyn i’r Brifysgol fod yn noddwr ar y digwyddiad.

“Pleser yw croesawu Gwobrau’r Selar yn ôl i gampws y Brifysgol eto eleni,” meddai Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr y Gymraeg, Diwylliant Cymru a Chysylltiadau Allanol, Prifysgol Aberystwyth.

“Mae’n ddigwyddiad enfawr yn y calendr cerddoriaeth Gymraeg ac yn gyfle penigamp i ddathlu creadigrwydd, amrywiaeth a gwaith caled pawb sy’n rhan o’r sin roc.”