Mae’r rhestr fer ar gyfer Gwaith Celf Gorau gwobrau’r Selar wedi cael ei chyhoeddi, gyda thri yn y ras.

Dywed y trefnwyr fod “creu gwaith celf trawiadol ar gyfer cynnyrch cerddorol yn fwyfwy trawiadol” yn oes ffrydio a lawrlwytho cerddoriaeth.

Maen nhw’n dweud bod y wobr hon yn “arbennig o bwysig”.

Y rhestr fer

Y tri ar y rhestr fer yw:

  • Mikey Burey – ‘Bubblegum’ gan Omaloma
  • Aur Bleddyn – ‘Yn Fy Mhen’ gan Lewys
  • Rhys Grail – ‘Sugno Gola’ gan Gwilym

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar benwythnos y gwobrau, Chwefror 15-16.

Y gweithiau celf