Fe fydd rhai o gerddorion amlycaf Cymru yn dod at ei gilydd ym mis Chwefror 2019 mewn cyngerdd sydd â bwriad i ysgogi pobol i feddwl am Gymru annibynnol.

Bydd y cyngerdd yn gweld Gruff Rhys, Gwenno, Charlotte Church, Cian Ciaran, Astroid Boys, Los Blancos ac enillwyr Gwobr Cerddoriaeth Cymru – Boy Azooga, yn chwarae yng nghlwb Tramshed yng Nghaerdydd.

Mae’r cyngerdd, fydd o dan y faner “Gellir Gwell”, yn ddechreuad ar gyfres o ddigwyddiadau creadigol sy’n targedu beth maen nhw’n gweld fel “bygythiad parhaol llywodraeth San Steffan i fuddiannau hirdymor cymunedau Cymru.”

Cian Ciarán, chwaraewr allweddellau’r Super Furry Animals a chefnogwr brwd o Gymru annibynnol, yw un o drefnwyr y cyngerdd cyntaf.

“Synnwyr cyffredin”

“Mae amser yn dod pan fo barn ar rywbeth fel annibyniaeth i Gymru yn rhwygo oddi wrth y rhai y byddech chi’n disgwyl sydd yn rhan o’r ddadl – y gwleidyddion, yr ymgyrchwyr, y sylwebwyr – ac yn dod yn synnwyr cyffredin,” meddai Cian Ciarán. “Mae Gellir Gwell! eisiau dangos hynny.

“Mae yna draddodiad balch yma yng Nghymru am sefyll yn union am yr hyn sy’n iawn, rydym wedi cynhyrchu arloeswyr a ffigurau gweledigaethol,” meddai wedyn.

Mi fydd cyngerdd Gellir Gwell! yn cael ei gynnal ar nos Wener, Chwefror 15 yn Tramshed, Caerdydd.