Mae albwm gyntaf y ddeuawd boblogaidd, HyWelsh, ar gael i’w lawrlwytho o heddiw ymlaen (Rhagfyr 7).

Mae Y Goreuon Hyd yn Hyn yn cynnwys amrywiaeth o ganeuon sydd wedi cael eu hysgrifennu a’u perfformio ar y cyd gan y ddau ddiddanwr digrif, Hywel Pitts a’r Welsh Whisperer.

Cafodd pob un o’r 15 cân eu recordio ar gyfer y sianel ar-lein Hansh rhwng 2016 a 2018,  gyda rhai fel ‘Quiche Lorraine’, ‘Arweinyddiaeth Cryf’, ‘Tafodiaith’ ac ‘A470’ wedi profi’n boblogaidd ar y We.

Mae HyWelsh wedi bod yn perfformio’n fyw ers sawl blwyddyn ac, yn dilyn cyhoeddi’r albwm, bydd y ddau’n ymddangos mewn “gig cyn-Nadoligaidd” yn Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth, ar Ragfyr 23.

Mae’r gig yn rhan o arlwy Cabarela, sef taith y grŵp Sorela ac artistiaid eraill.

Mae modd gwrando ar HyWelsh yn perfformio ‘A470’ isod: