Mae canwr oedd yn arfer bod yn aelod o’r grŵp pop JLS wedi ymddangos gerbron llys wedi’i gyhuddo o dreisio.

Fe gafodd Ortise Williams, 31, ei arestio ym mis Rhagfyr 2016 yn dilyn honiadau ei fod wedi treisio person mewn ystafell westy yn Wolverhampton ar ôl gig.

Ymddangosodd y canwr o Croydon, de Llundain, yn Llys Ynadon Walsall ac Aldridge heddiw (dydd Iau, Hydref 11). Mae wedi’i ryddhau ar fechnïaeth diamod.

Mae Jamien Nagadhana, dyn 31 oed o Hounslow, hefyd wedi ymddangos yn y llys mewn cysylltiad gyda’r un digwyddiad.

Mae disgwyl i’r ddau ymddangos yn Llys y Goron Wolverhampton ar Dachwedd 8.