Mae’r gân a enillodd Tlws Sbardun Eisteddfod 2018 bellach ar gael i’w lawrlwytho am ddim.

‘Clychau’r Gog’ yw enw’r gân, a chafodd ei chyfansoddi gan Gwilym Bowen Rhys o’r Bandana gynt.

Mae’r darn acwstig hon yn tynnu ar ddelweddau byd natur a’n mynd i’r afael a themâu gan gynnwys serch a chariad.

Cafodd y gân ei recordio yn Stiwdio Penhesgyn, ac mae dau aelod o Gowbois Rhos Botwnnog wedi cyfrannu ati.

Mae modd gwrando ar y gân ar dudalen Bandcamp Gwilym Bowen Rhys, ac mae modd ei lawrlwytho yn fan hyn.

Tlws Sbardun

Dathliad o gyfraniad Alun ‘Sbardun’ Huws – cyn-aelod Tebot Piws – i fyd cerddoriaeth a llenyddiaeth Cymru yw Tlws Sbardun yr Eisteddfod Genedlaethol.