Mellt ydi’r grwp sy’n derbyn Tlws Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni am eu halbwm Mae’n Haws Pan ti’n Ifanc.

Cyhoeddwyd hyn mewn seremoni arbennig ar Lwyfan y Maes BBC Radio Cymru y prynhawn yma.

Meddai Guto Brychan, un o drefnwyr Albwm Cymraeg y Flwyddyn: “Roedd gennym restr fer hynod eclectig eleni, gyda phob math o genres cerddorol yn cael eu cynrychioli.

“A braf oedd cael cyfle i drafod yr albymau gyda phanel ardderchog, oedd â barn gref am bob un o’r albymau a gyrhaeddodd y rhestr fer.”

Dyma’r pumed tro i’r Eisteddfod gynnig gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn.  Bendith ddaeth i’r brig y llynedd, a Swnami y flwyddyn cynt, gyda Gwenno Saunders yn ennill yn 2015.  Enillwyd y wobr gyntaf gan The Gentle Good.

Tlws Sbardun

Yn ogystal y prynhawn yma (dydd Iau, Awst 9), enillodd Gwilym Bowen Rhys wobr Tlws Sbardun, am gân wreiddiol ac acwstig ei naws.  Heno, bydd Gwilym yn perfformio ar lwyfan y Pafiliwn gyda’r band Pendevig.

Roedd Alun ‘Sbardun’ Huws yn un o gyfansoddwyr mwyaf nodedig y blynyddoedd diwethaf, a’r bwriad yw cofio’i gyfraniad i fyd cerddoriaeth a llenyddiaeth Gymraeg.