Gall pobol sy’n mynd i ddigwyddiad ‘Cabarela’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd ddisgwyl “noson bach mwy gwyllt a filthy” na’r arfer, yn ôl Lisa Angharad.

Noson o adloniant amrywiol yw hi, o dan arweiniad chwiorydd y band ‘Sorela’, a Lisa Angharad yn un ohonyn nhw.

Ymhlith yr artistiaid eraill sy’n cymryd rhan yn y digwyddiad yng Nghaffi Maes B nos Fercher (6 o’r gloch) mae Hywel Pitts, Connie Orff a Steffan Evans, ynghyd â’r ‘Difas a’r Diceds’ gyda’u parodïau o ganeuon sioe gerdd.

Dyma’r ail waith i’r noson gael ei chynnal yn y brifwyl, yn dilyn llwyddiant y gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn y llynedd.

‘Ni’n gallu bod tamaid bach yn ddifrifol’

Wrth siarad â golwg360 ar ddiwedd gig Tyrfe Tawe yn Abertawe’n ddiweddar, dywedodd Lisa Angharad, “Ni, Sorela, sy’n cyflwyno’r artistiaid i gyd ar gân, ac ry’n ni wir yn edrych ’mlaen at y Steddfod oherwydd mae Cabarela yn gymaint o hwyl.

“Mae’n gymaint o sbort, a fi’n teimlo ambell waith bo ni’r Cymry’n dda iawn, iawn am werthfawrogi cerddoriaeth ond falle, ambell waith, y’n ni’n gallu bod tamaid bach yn ddifrifol.

“Mae’n neis cael cerddoriaeth a noson bach mwy gwyllt a filthy.”

Taith

Yn dilyn llwyddiant Cabarela y llynedd, mae Lisa Angharad wedi penderfynu mynd â’r sioe ar daith yn ddiweddarach eleni.

Ychwanegodd: “Mae’n dechrau yn Llundain yn y ganolfan Gymraeg, ac yn gorffen yn Aberystwyth.

“Mae’n para tua phythefnos ac yn mynd ledled Cymru a Lloegr.”

Lansio cylchgrawn newydd

Cyn i’r chwiorydd droi eu sylw’n llwyr at y sioe nos Fercher, byddan nhw hefyd yn perfformio yn ystod lansiad cylchgrawn Cara ger yr Eglwys Norwyaidd nos Lun (6.30yh).

Bydd y cyhoeddiad yn rhoi llais i ferched Cymru.

Mae rhifyn cyntaf y cylchgrawn yn cael ei werthu yn yr Eisteddfod ar stondinau Cant a Mil Vintage, Ruth Jên, Siop y Pethe a’r Lolfa.