Mae rhestr fer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn wedi’i chyhoeddi, cyn y bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol ddechrau Awst.

Bwriad y wobr yw dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg sy’n cael ei ryddhau yng Nghymru, ac mae cymysgedd eclectig o gynnyrch ac artistiaid wedi cyrraedd y rhestr fer.  Y cyfnod dan sylw eleni oedd Mai 1, 2017 hyd at ddiwedd Ebrill 2018.

Bu rheithgor o unigolion sy’n rhan o’r diwydiant cerddoriaeth yn dewis a dethol eu hoff gynnyrch, gan bleidleisio am eu ffefrynnau ar ddiwedd y broses.

Bydd criw o feirniaid yn dod ynghyd yn ystod yr Eisteddfod eleni er mwyn dewis enillydd, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar y noson.

Y deg albwm ar y rhestr fer yw:

·         Band Pres Llareggub – Llareggub

·         Blodau Gwylltion – Llifo fel Oed

·         Bob Delyn a’r Ebillion – Dal i ‘Redig Dipyn Bach

·         Gai Toms – Gwalia

·         Gwyneth Glyn – Tro

·         Mellt – Mae’n Hawdd Pan ti’n Ifanc

·         Mr Phormula – Llais

·         Serol Serol

·         Y Cledrau – Peiriant Ateb

·         Yr Eira – Toddi

Bydd yr enillydd yn derbyn tlws wedi’i gomisiynu’r arbennig ar gyfer yr achlysur gan Ann Catrin Evans.