Mae’r holl docynnau ar gyfer Sesiwn Fawr Dolgellau – 500 – wedi gwerthu allan am yr ail flwyddyn yn olynol.

Dyma’r eildro i bob un tocyn ar gyfer y digwyddiad yn nhre’ Dolgellau werthu allan ers i’r ŵyl ailddechrau yn 2011.

Ond mi fydd y rheiny sydd wedi llwyddo i gael gafael ar docyn yn medru mwynhau penwythnos lle bydd bandiau fel Omaloma, Ail Symudiad a La Inedita yn chwarae.

Mae disgwyl i Anweledig ddiddanu’r dorf yn ystod yr ŵyl hefyd, wrth iddyn nhw gamu i’r llwyfan unwaith eto ar ôl 11 mlynedd.

Llwyddiant yr ŵyl

 “Y llynedd, fe werthodd y tocynnau i gyd dri diwrnod cyn yr ŵyl,” meddai un o’r trefnwyr, Emyr Lloyd, wrth golwg360.

“Ond maen nhw wedi mynd pedair wythnos cyn yr ŵyl eleni.

“Achos bod y gwerthiant yn dda y llynedd, mae pobol wedi bod yn fwy awyddus i brynu tocynnau eleni mewn ffordd, a hefyd mae Anweledig yma ar y nos Wenar.”

Mae Emyr Lloyd hefyd yn ychwanegu bod poblogrwydd yr ŵyl y llynedd wedi’u harwain i agor dau lwyfan ychwanegol ar gyfer eleni, sef un yn y clwb rygbi ac un arall yn y Theatr Fach.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yng nghanol tre’ Dolgellau rhwng Gorffennaf 20 a 22.