Clytwaith artist o Fôn sydd wedi ysbrydoli perfformiad electronig Nghaerdydd heno (Mehefin 15).

‘Edrica’ yw enw’r perfformiad, a nod y darn yw dathlu bywyd a gwaith yr artist Edrica Huws – dynes a enillodd fri rhyngwladol am ei chlytwaith.

Y cerddor Gwenno Saunders fydd yn perfformio’r darn, gan gyffwrdd ar amryw o themâu: effaith bod yn fam ar greadigrwydd a’r cysylltiadau rhwng cerddoriaeth electronig a chlytwaith.

“Gwthio’r ffiniau”

“Dw i eisiau parhau i archwilio pethau’n seiniol ac yn thematig, ac rwy’n teimlo’n gyffrous iawn am y themâu sydd gen i, ac rwy eisiau datblygu’r syniadau hyn,” meddai Gwenno.

“Rwy’n sgwennu caneuon pop yn reddfol, ac mae’r gwaith hwn yn golygu symud i ffwrdd o hynny a datblygu’r seiniau a’r strwythurau a bod yn chwareus. Rwy eisiau gwthio’r ffiniau.”

Cafodd ‘Edrica’ ei gomisiynu yn arbennig ar gyfer Gŵyl y Llais, ac mae’n debyg bod y digwyddiad – yng Nghanolfan y Mileniwm – wedi gwerthu allan.