Mae Gwenno, Boy Azooga, Drenge a The Go! Team ymhlith yr artistiaid fydd yn perfformio  yng Ngŵyl Sŵn 2018.

Yn 12 oed, bydd yr ŵyl yn dychwelyd i Gaerdydd eleni eto, gan ddenu llu o gerddorion Cymreig a rhyngwladol.

Unwaith eto, mi fydd yn cael ei chynnal mewn sawl lleoliad gwahanol ledled y brifddinas, gan roi llwyfan i sawl artist Cymraeg – gan gynnwys Breichiau Hir, Los Blancos, Marged a Mellt.

Ond yn wahanol i’r arfer, tîm rheoli Clwb Ifor Bach fydd yn trefnu’r digwyddiad y tro hwn – sefydlwyr yr ŵyl, Huw Stephens a John Rostron, a fu wrth y llyw yn y gorffennol.

“Cyfle perffaith”

“Pan sefydlwyd Sŵn, roeddem bob amser yn rhagweld y byddem yn ei throsglwyddo i’r gymuned gerddorol a chamu i ffwrdd, a nawr mae gennym y cyfle perffaith i wneud hynny,” meddai  John Rostron.

“Mae’n gyffrous i gamu i ffwrdd gan wybod y bydd Sŵn yn parhau i ddatblygu mewn dwylo newydd. Yn ddi-os, bydd yn rhyfedd i ymweld a pheidio â gweithio yno, ond rwy’n edrych ymlaen at weld cynifer o fandiau â phosib yr wythnos honno.”

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal rhwng Hydref 17 a 20, a bydd tocynnau ar werth o Fehefin 15 ymlaen.