Mae’r band fydd yn cloi noson ola’ Maes B eleni yn disgwyl “mwy o sialens” i ddenu ieuenctid Cymru i ddod i wrando arnyn nhw.

Ers 2014 mae Yr Eira wedi perfformio ym Maes B bob blwyddyn, ac am y tro cyntaf erioed mi fyddan nhw’n llenwi un o brif slotiau’r digwyddiad ddechrau Awst.

Mae prif leisydd y band, Lewis Wyn, yn nodi ei fod yn “chuffed” i gael y cyfle i berfformio, a’n galw’r wledd gerddorol yn “un o uchafbwyntiau gyrfa rhai bandiau Cymraeg”.

Â’r gigiau’n cael eu cynnal yn y Bae eleni sawl milltir o’r maes pebyll yng nghaeau Pontcanna, mae’r cerddor yn gobeithio na fydd hyn yn amharu ar y digwyddiad.

“Bydd o’n ddiddorol gweld sut mae pethau yng Nghaerdydd,” meddai wrth golwg360. “Dw i’n gwybod bod y maes pebyll yn eitha’ pell o’r gig ei hun.

“Felly dw i’n gobeithio bydd ‘na bobol dal yn cael eu denu, ac y byddwn ni’n llwyddo denu pawb yn ôl i’r lle ar ddiwedd y nos.

“Mae’n fwy o sialens i gael nhw i’r gig, yn hytrach na bod nhw jest yn aros yn y maes pebyll, ac yn yfed yn fan’na.”

Adeilad Doctor Who

Er bod gigiau maes b yn draddodiadol yn cael eu cynnal ar lwyfan nesa i’r maes pebyll, bydd yng nghanolfan Doctor Who Experience bydd y perfformiadau eleni – syniadau da, yn ôl Lewis Wyn.

“Dw i’n meddwl bod o’n ddewis da i fynd â fo fan ‘na,” meddai. “Yn amlwg mae’n adeilad anferth, ac mae’n adeilad eithaf nodedig hefyd.

“Gan fod pob dim arall yn y Bae hefyd, dw i’n meddwl bod o’n gwneud sens i fod yna. Bydd bwrlwm yr Eisteddfod i gyd yn yr ardal yna, felly dw i’n meddwl bod o’n syniad grêt.”