Taith yn troi’n sur – dyna yw testun ‘Lluniau’, sef cân ddiweddaraf Iwan Huws.

Daw’r trac oddi ar albym unigol gyntaf y cerddor, Pan Fydda Ni’n Symud, fydd yn cael ei chyhoeddi ymhen wythnos.

“Mae hi’n gân am foment ple bu rywun yn deithiwr, a fu’n tyfu a thyfu gyda bob taith, ond yn gweld un peth yn ormod ac o ganlyniad mae’n gorfod cilio a lleihau,” meddai Iwan Huws.

Gallwch weld y fideo islaw…

 

Yr albym

Cafodd Pan Fydda Ni’n Symud eu recordio dros bum niwrnod mewn stiwdio yn Sir Benfro ym mis Ionawr, gyda llu o gerddorion yn cyfrannu.

Yn siarad â golwg360 ym mis Ebrill, dywedodd Iwan Huws mae agweddau gwahanol teithio oedd thema’r casgliad – y da a’r drwg.

Bydd perfformiad i lansio’r albym yn cael ei gynnal yn y Llofft, yn nhafarn Y Fic yn Llithfaen ar Fai 11.

Label Sbrigyn Ymborth sy’n ei ryddhau, ac mi fydd modd ei brynu ar ffurf CD neu’n ddigidol.