Mae’r Biggest Weekend ar ei ffordd i Abertawe, ac ymhlith y rhai a fydd yn perfformio fydd Sam Smith, Liam Payne a Camila Cabello.

Hefyd yn ymuno â nhw fydd Neneh Cherry, y Father John Misty, Stereophonics, Emeli Sande, Rita Ora, Squeeze, 30 Seconds To Mars a George Ezra – yn ogystal â dawnswyr o Strictly Come Dancing gyda Cherddorfa Gyngerdd y BBC.

Bydd y Biggest Weekend, a fydd yn cynnwys cyngherddau a gynhelir gan BBC Radio 1, 1Xtra a Asian Network, BBC Radio 2, BBC Radio 3 a BBC Radio 6 Music, yn cael ei gynnal yn Belfast, Coventry, Perth ac Abertawe dros benwythnos gwyliau banc Mai 25-28.

Mae Liam Payne, a fydd yn perfformio yng Nghymru, yn dweud ei fod yn “gyffro” a bod y Biggest Weekend yn mynd i fod yn “rhyfeddol”.

“Rydw i wedi cyffroi i fod yn chwarae yn The Biggest Weekend, ac rwy’n falch iawn fy mod yn ymddangos ar fil mor gryf – alla’ i ddim aros i fynd yn ôl i Abertawe!”