Mae’r band ‘space pop’  o Lanrwst, Serol Serol, wedi cyhoeffi y byddan nhw’n rhyddhauil eu halbwm cyntaf bythefnos i heddiw (Mawrth 23).

Serol Serol fydd enw’r albwm ac i nodi’r cyhoeddiad, mae’r grŵp yn cyhoeddi sengl newydd o’r enw ‘Arwres’ – ynghyd â fideo – heddiw.

Dwy gyfnither yw Serol Serol, sef Mali Siôn a Leusa Rhys, sydd yn cydweithio’n agos a’n perfformio’n fyw gyda George Amor a Llŷr Pari, o’r band Omaloma.

Er bod y grŵp yn gymharol newydd, maen nhw eisoes wedi llwyddo i gyhoeddi tri sengl  ‘Cadwyni’, ‘Aelwyd’, ‘K-TA’ – tair cân fydd yn ymddangos ar yr albwm.

Darnau’n “disgyn i’w lle”

“Ryden ni’n eithaf newydd i’r sin ac ond wedi chware llond llaw o gigs, ond mae’r senglau wedi rhoi blas go dda i bawb o’r albwm,” meddai Mali Siôn a Leusa Rhys mewn datganiad ar y cyd.

“Ryden ni wedi bod yn recordio’r albwm yn Stiwdio Glan Llyn, ac mae hi wedi bod yn broses rhyfedd, gan fod pawb ar wahân. Ond rhywsut, mae’r darnau wedi disgyn i’w lle.”

Bydd yr albwm yn cael ei gyhoeddi trwy label Recordiau I KA CHING.

Dyma’r fideo ar gyfer ‘Arwres’: