Mae gitâr sy’n eiddo i’r seren roc Eric Clapton – gyda llosg sigarét arno- wedi gwerthu am £25,000 mewn ocsiwn.

Gwerthwyd y gitâr acwstig o bren naturiol, yn ocsiwn Gardiner Houlgate yn Corsham, Wiltshire a’r disgwyl oedd iddo ddenu cynigion hyd at £10,000.

Roedd y cerddor yn berchen ar y gitâr rhwng 1978 a 1999, hyd nes iddo ei werthu mewn ocsiwn elusen yn Efrog Newydd i godi arian ar gyfer ei ganolfan i helpu pobol gyda phroblemau cyffuriau ac alcohol.

“Roedd yn werthiant gwych,” meddai’r arwerthwr Luke Hobbs.

“Roeddem yn gwybod y byddem yn cael llawer o ddiddordeb yng ngitâr Clapton, ond ddim yn agos at y lefel yma.

“Roedd y prynwyr yn yr ystafell gyfan yn rhoi ebychiadau bob tro aeth y pris i fyny.”