Mae cyn-enillydd ‘Cân i Gymru’, Tesni Jones wedi cyrraedd rownd nesa’r rhaglen ITV, ‘The Voice’.

Perfformiodd hi’r gân roc Highway to Hell gan AC/DC cyn i Tom Jones a Jennifer Hudson droi eu seddi i gynnig lle iddi yn y rhaglen.

Yn wreiddiol o Fae Colwyn, mae’r Gymraes a ddaeth i amlygrwydd gyda’r band Pheena bellach yn byw yn Swydd Gaint, ac mae hi’n disgrifio’i hun fel “mam lawn amser a chantores ran-amser”, gan ddweud bod ganddi “rywbeth i’w gynnig o hyd”.

Enillodd hi gystadleuaeth ‘Cân i Gymru’ yn 2011 gyda’i pherfformiad o Rhywun yn Rhywle gan Ynyr Roberts (Brigyn) a Steve Balsamo.

Ymateb

Dywedodd fod Jennifer Hudson wedi’i “hysbrydoli” i rannu ei hamser rhwng bod yn fam a bod yn gantores, gan ychwanegu ei bod hi “wedi aros am amser hir am eiliad fel hon”.

Dywedodd Will.i.am fod ei pherfformiad yn “aruthrol”, yn enwedig pan darodd hi’r nodau uchel, a dywedodd ei bod yn “destun balchder” ei bod hi’n parhau i “ddilyn ei breuddwyd”.

Ychwanegodd Jennifer Hudson fod gweld eu mam yn dilyn eu breuddwydion “yn ysbrydoli plant i ddilyn eu breuddwydion nhw hefyd”.

Gofynnodd hi: “Beth wyt ti’n ei ganu i roi’r babi i gysgu?!” cyn egluro ei bod hi’n gallu “uniaethu” â’r Gymraes.

Penderfyniad

Wrth egluro’i phenderfyniad i ddewis tîm Jennifer Hudson, dywedodd Tesni Jones: “Dw i’n credu, er lles y mamau, y bydda i’n mynd gyda Jennifer.

“Ro’n i’n syfrdan fod un person wedi troi hyd yn oed. Ond roedd rhywbeth am Jennifer oedd yn teimlo’n iawn. Cael fy mhlentyn a chwrdd â fy mhartner oedd eiliadau gorau ’mywyd. Ond mae hyn yn bendant i fyny’n fan’na yn rhywle.”